Edward Thomas

bardd, traethodwr, a beirniad From Wikipedia, the free encyclopedia

Edward Thomas
Remove ads

Bardd, traethodydd a nofelydd o Sais o dras Gymreig oedd Philip Edward Thomas (3 Mawrth 18789 Ebrill 1917, Arras, France).

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...

Fe'i ganwyd yn Lambeth, Llundain, aelod teulu Cymreig. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen.

Caiff ei adnabod yn bennaf fel bardd rhyfel, er mai prin yw ei gerddi sy'n ymdrin yn benodol â'i brofiad o ryfel, a bod ei yrfa fel bardd wedi dilyn ei cryn lwyddiant fel awdur a beirniad llenyddol.

Yn 1915, ymrestrodd â'r Fyddin er mwyn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe'i lladdwyd ar faes y gad ym Mrwydr Arras yn 1917, yn fuan wedi iddo gyrraedd Ffrainc.

Roedd yn briod â Helen Thomas, awdur As It Was (1926), sy'n trafod eu carwriaeth a'u priodas. Mae'n adnabyddus am ei gerddi am y Rhyfel Byd Cyntaf.

Remove ads

Llyfryddiaeth

Barddoniaeth

  • Six Poems (1916; fel "Edward Eastaway")
  • Poems (1917)

Nofelau

  • The Happy-Go-Lucky Morgans (1913)

Eraill

  • The Woodland Life (1897
  • The Heart of England (1906)
  • The South Country (1909)
  • The Icknield Way (1913)

Cofiant

  • Matthew Hollis: Now all Roads lead to France: The Last Years of Edward Thomas, Faber & Faber, London 2011, ISBN 978-0-571-24598-7.
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads