Emyr Edwards
Dramodydd, llenor a bardd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dramodydd, llenor a bardd oedd Emyr Edwards (4 Gorffennaf 1931 – 5 Gorffennaf 2021).[1] Roedd yn fab i'r Prifardd J. M. Edwards. Treuliodd ei yrfa fel pennaeth yr Adran Ddrama yng Ngholeg Hyfforddi Morgannwg yn Y Barri ac yna ym Mholytechnig Cymru, Pontypridd. Bu'n gynhyrchydd am bedair blynedd yn nyddiau cynnar datblygiad S4C. Am gyfnod bu'n ddarlithydd ar gwrs Theatr Cerdd a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Yn sylfaenydd Cwmni Theatr yr Urdd, roedd yn awdur toreithiog, gan gyhoeddi sawl llyfr ar theori'r actor, ynghyd â chyfansoddi dramâu a dramâu cerdd. Bu'n brif arholwr arholiad Drama Safon Uwch i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru am 25 mlynedd, cyn ymddiswyddo yn 2003 yn sgîl ymchwiliad i ymddygiad John A Owen yn Ysgol Rhydfelen[2].
Tra'n ddramodydd ifanc, sylwodd Emyr Edwards bod diffyg cyfleoedd ar gael i bobl ifanc ymddiddori mewn actio trwy gyfrwng y Gymraeg, a dyna sut y daeth y syniad o greu Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd. Fe aeth y cwmni ymlaen i sbarduno gyrfaoedd nifer o actorion a dramodwyr eraill fel Siân James, Stifyn Parri a Cefin Roberts.
Yn ogystal â chyhoeddi nifer o lyfrau canllaw ar gyfer actorion a chynhyrchwyr, fe gyhoeddodd Emyr gyfresi o ddramâu byrion, gan gynnwys Y Fodrwy a Dramâu Byrion Eraill. Bu hefyd yn gyfrifol am drosi dramâu i'r Gymraeg fel dwy o ddramâu Tennessee Williams Cab Chwant, ei drosiad o A Streetcar Named Desire a Pethe Brau, ei addasiad o The Glass Menagerie. Enillodd gystadleuaeth y ddrama fer dair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe gyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth sef Guernika a Cherddi Eraill ac yn addas iawn - Cerddi'r Theatr.
Enillodd ei dad, J.M. Edwards, Goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith yn 1937, 1941 ac 1944.
Bu farw ym mis Gorffennaf 2021 yn 90 oed, ychydig fisoedd ar ôl ei wraig, Cath, wedi salwch hir. Mae'n gadael un mab, Seth.[3][1]
Remove ads
Llyfryddiaeth


Dramâu[4]
Gwreiddiol
- Diwrnod Mawr ym Merthyr (1974)
- Twm : drama wedi ei seilio ar anturiaethau Twm Sion Cati (1980)
- The Inheritor (1984)
- Beibl i Bawb (1988)
- Cyffro ar y Costa (1989)
- Cwlwm (1991)
- Taffi a Chonffeti Ffair (1991)
- S.L (1992)
- Mewn Cadwyni (1992)
- Branwen (1992)
- Abertawe'n Fflam (1993)
- Dan Bach Pontypridd (1993)
- Bracchi (1996)
- Nye (1997)
- Byd islaw'r Bont (1998)
- Anwylaf Maria Anwylaf Dietrich (1998)
- Via Dolorosa (1999)
- Dod i Ben (1999)
- Antur Maes y Mynydd (1999)
- Cyffro yn y Cwm (2000)
- Yr Ynys (2002)
- Tŷ o Gardiau (2004)
- Y Cythreuliaid (2004)
- Yng Nghysgod yr Eos (2005)
- Gwreichion (2005)
- Gwragedd Guernika (2006)
- Apocalyps (2007)
- Pris Cezanne (2007)
- Yr Atig (2007)
- Ymweliad yr Hen Derodactyl (2007)
- Y Tu ôl i'r Llen (2007)
- Y Fodrwy (2007)
- Yr Hawl i fesur ei Hyd (2008)
- Campau y Doctor Gwydion (2008)
- Brwydr y Bais (2009)
- Melltith yn y Marina (2009)
- Adolff (2011)
- Cwymp y Cedyrn (2011)
- Cythraul Cystadlu (2011)
- Bwlis (2011)
- Wyneb yn Wyneb (2011)
- Cerdd y Cyffro (2011)
- Sŵn ym mrig y Morwydd (2011)
- Y Storïwr a Dramâu Byrion Eraill (2013)
Addasiad / Trosiad / Cyfieithiad
- Pethe Brau (1963) trosiad o Glass Menagarie gan Tennessee Williams
- The Petticoat Rebellion (1973)
- Blood or Bread (1974)
- Cab Chwant (1995) trosiad o A Streetcar Named Desire gan Tennessee Williams
- Rhith y Rhosyn (2009) cyfieithiad o The Rose Tattoo gan Tennessee Williams
Drama Gerdd
- Jiwdas Iscariot (1979)
- Penderyn (1982)
- Senghenydd (1983) (drama gerdd)
- Chicago (1985) (drama gerdd)
- Merch Y Blodau (1985)
- Y Bont (1985) (drama gerdd)
- Trafferth Lawr Yn Tseina (1987)
- Pasiant Y Peiriannau (1987) (drama gerdd)
- Elfis (1988) (drama gerdd)
- Kitch (1989)
- Guernica (1992) (drama gerdd)
- Trystan Ac Esyllt (opera roc gydag Euros Rhys Evans)
Cyfrolau o Ddramâu
- Dramâu'r Nadolig (1978)
- Y Fodrwy A Dramâu Byrion Eraill (2007)
- Adolff A Dramâu Byrion Eraill (2011)
- Chwe Drama Fer (2005)
Y Theatr
- Llawlyfr Actio (1970)
- Myth Into Drama (1979)
- Theatr Y Cyfryngau (1979)
- Llawlyfr Cynhyrchu (1980)
- Llais O'r Llenni (1988)
- Bertolt Brecht - Arfau I'r Actor Ifanc (2002)
- Constantin Stanislavski - Arfau I'r Actor Ifanc (2002)
- Jerzy Grotowski - Arfau I'r Actor Ifanc (2002)
- Dyfeisio Theatr - Arfau I'r Actor Ifanc (2002)
- Persbectif Theatr (2006)
- Sut I Greu Drama Fer (2012)
- Agor Llenni (2013)
- Perfformio: Stori'r Perfformiwr Ar Lwyfan Y Theatr Gymraeg (2013)
Barddoniaeth
- Guernika a Cherddi Eraill
- Cerddi'r Theatr
- Llygredd A Cherddi Eraill (2000)
Amrywiol
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads