Pontypridd
pentref yn Rhondda Cynon Taf From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Pontypridd.[1] Mae wedi ei lleoli tua deuddeg milltir i’r gogledd o Gaerdydd, a chanddi boblogaeth o tua 33,000. Mae Llundain yn 224.1 km.
Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 13.9% o boblogaeth Pontypridd yn medru’r Gymraeg, 21.3% ag un neu ragor o fedrau yn Gymraeg, a thua chwarter plant oedran addysg gynradd y dref yn mynychu ysgolion Cymraeg.
Deillia enw’r dref o 'Pont y tŷ pridd'. Yn ôl hanes lleol, safai tŷ traddodiadol wedi ei wneud o bren, gwrysg a phridd ar lan Afon Taf, a dyma’r enw a roddwyd i’r nifer o bontydd a godwyd dros yr afon (gweler Ifor Williams, Enwau Lleoedd, tud. 56). Erbyn heddiw, Ponty yw’r enw a ddefnyddir gan drigolion yr ardal wrth gyfeirio at y dref ar lafar. Mae hi hefyd yn efeilldref gyda Nürtingen, yn yr Almaen.
Remove ads
Y Bont

Honnir i bont Pontypridd fod ymhlith y rhai enwocaf yng Nghymru, ac yn 2006, yr oedd hi’n dathlu 250 o flynyddoedd ers ei chodi. Pan y’i codwyd hi, hon oedd y bont rhychwant sengl hiraf yn y byd. Adeiladwyd y bont gan ŵr o’r enw William Edwards (1719-1789)[2] a oedd yn weinidog Anghydffurfiol a saer maen hunan-ddysgedig.
Pont Pontypridd oedd ei greadigaeth fwyaf poblogaidd, a adeiladwyd rhwng 1746 a 1754. Roedd hi’n bont mor hir (yn pontio 140 troedfedd) nes iddi gymryd tair neu bedair ymgais i’w chodi yn llwyddiannus. Yn ôl rhai, dyma oedd tarddiad y dywediad “Tri chynnig i Gymro”.
Golchwyd y gyntaf, a wnaed o bren, i ffwrdd gan lifogydd, a chwympodd yr ail, a’r drydedd, a wnaed o gerrig, wrth eu hadeiladu oherwydd y pwysau. Cafodd y bont olaf ei gwneud o gerrig yn ogystal, ond y tro hwn yr oedd hi’n llawer ysgafnach. Ynddi roedd chwe thwll mawr, tri bob ochr gyda diamedr o 9, 6 a 3 troedfedd. Cafodd William Edwards dâl o £500 ar yr amod y byddai’r bont yn sefyll am saith mlynedd.

Remove ads
Diwydiant
Adeiladwyd camlas Morgannwg ar ddiwedd y 18g, gan gyrraedd Pontypridd yn 1794. Dyma oedd dechrau datblygiad diwydiannol Pontypridd. Cafwyd twf aruthrol ym Mhontypridd yn sgil twf diwydiannau Cymoedd Rhondda. Pontypridd, wrth aber afon Rhondda, a ddaeth yn brif dref farchnad yr ardal. Prif ffatri’r dref oedd gwaith cadwynau Brown Lenox, a ddechreuwyd yn 1816.[3]
Clwb y Bont
Mae Clwb y Bont yn glwb cymdeithasol ar ffurf tafarn a gafodd ei sefydlu yn 1983 ac wedi ei leoli ar lan Afon Taf. Sefydlwyd y clwb i hybu Cymreictod yr ardal ydoedd, gan roi cyfle i siaradwyr Cymraeg yr ardal gwrdd â’i gilydd. Ceir llawer o fandiau yn chwarae yno ar benwythnosau. Mae ystafell gyfarfod uwchben y clwb lle cynhelir gwersi Cymraeg a dosbarthiadau llên.
Corau Cymraeg yr Ardal
Côr Godre’r Garth
Mae Côr Godre'r Garth yn gôr cymysg gyda 60 o aelodau. Mae'r côr yn ymarfer yn Efail Isaf a daw'r aelodau o ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, y Rhondda a Chwm Rhymni yn ogystal â Thaf Elái.
Ffurfiwyd y côr yn 1974 gyda'r nod o hybu Cymreictod mewn ardal oedd, yr adeg honno, ar fin colli'r iaith yn llwyr. Denwyd nifer o ddysgwyr i rengoedd y Côr a bu'n fodd i nifer i loywi eu hiaith.[4]
Remove ads
Eisteddfodau
Mae Pontypridd wedi cynnal dau Eisteddfod, yn 1893 ac Eisteddfod 2024 hefyd.
Cangen Merched y Wawr
Sefydlwyd cangen Pontypridd o Ferched y Wawr yn y flwyddyn 2008. Rhyw 20 o aelodau sydd i'r gangen.[5]
Preswylwyr enwog
- Evan James a James James - cyfansoddwyr Hen Wlad fy Nhadau
- Tom Jones - canwr byd enwog yn enedigol o Drefforest
- Lostprophets - band roc
- Dr William Price - y gŵr cyntaf i amlosgi corff ym Mhrydain
- Stuart Burrows a Geraint Evans — cantorion opera yn enedigol o Gilfynydd
- Freddie Welsh - bocsiwr byd enwog
- Neil Jenkins, Michael Owen, Martyn Williams, Kevin Morgan, Ceri Sweeney a Gareth Wyatt - chwaraewyr rygbi rhyngwladol
- Robert James Bye - Enillwr y Victoria Cross yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
- John Evans - Bardd.
- Harri Greville - Chwaraewr rygbi cynghrair.
- Elaine Morgan - sgript-wraig ac anthropolegydd.
- Phil Campbell - Gitarydd Motörhead.
- Gareth Davies, Darran Smith - o'r band Funeral for a Friend.
- Côr Meibion Pontypridd
- Owain Warlow, Jason Price, Ceri Hughes, Danny Canning, Richard Haig, Colin Gale and Pat Mountain - pêl-droedwyr.
- Kimberley Nixon - actores.
- Chris Slade - drymiwr o fandiau AC/DC ac Asia.
- Sheila Laxon - hyfforddwr ceffylau, menyw gyntaf i ennill yr "Australian cups double", y Caulfield Cup a'r Melbourne Cup.
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Remove ads
Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ym 1893. Am wybodaeth bellach gweler:
Gefeilldref
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads