Eric Fellner
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Eric Fellner, CBE (ganed 10 Hydref 1959, Lloegr) yn gynhyrchydd ffilmiau o Loegr sydd wedi cael ei enwebu am Wobr yr Academi.
Remove ads
Gyrfa
Mae Eric Fellner yn gweithio gyda Working Title Films yn Llundain gyda Tim Bevan. Mae'r ffilmiau lle mae wedi gweithio fel cynhyrchydd neu uwch-gynhyrchydd yn cynnwys Moonlight and Valentino, Four Weddings and a Funeral, Dead Man Walking, Fargo, Notting Hill, United 93 a Bridget Jones's Diary.
Arwyddodd Working Title Films gytundeb gydag Universal Studios ym 1999 a roddodd y pŵer i Bevan a Fellner i gomisiynnu ffilmiau gyda chyllid o $35 miliwn (UDA) heb iddynt orfod dderbyn caniatad eu meistri. Bellach, y cwmni hwn yw'r cwmni cynhyrchu annibynnol mwyaf ym Mhrydain gyda swyddfeydd yn Llundain ac yn Los Angeles. Mae eu llwyddiannau'n cynnwys Four Weddings And A Funeral (1994) a wnaeth dros $250 (UDA) miliwn yn fyd eang. Enillodd Dead Man Walking a Fargo Oscars ym 1996 ac ym 1997, tra bod Elizabeth (1998) ac Atonement (2007) wedi cael eu henwebu am y Ffilm Orau yng Ngwobrau'r Academi.
Remove ads
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads