Gary Sprake

From Wikipedia, the free encyclopedia

Gary Sprake
Remove ads

Pêl-droediwr o Gymru oedd Gareth (Gary) Sprake (3 Ebrill 194518 Hydref 2016).[1] Roedd yn golgeidwad a chwaraeodd i Leeds United, Birmingham City ac enillodd 37 cap dros Gymru.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Ffeithiau sydyn Gyrfa Ieuenctid, 1962-1963 ...

Fe'i ganwyd ym maestref Winsh-wen, Abertawe.

Gwelwyd ei botensial gan sgowt o Leeds tra roedd yn chwarae i dîm ieuenctid Abertawe. O fewn 18 mis roedd wedi ennill cap am chwarae dros ei wlad: yn ddim ond deunaw oed - y gôl-geidwad ieuengaf i chwarae dros Gymru erioed.

Bu o gymorth i Leeds a chawsant eu dyrchafu i'r Gynghrair Gyntaf yn 1963/64, lle arhosodd y tîm am rai blynyddoedd. Yn 1978 cyhuddodd y rheolwr Don Revie o roi cil-dwrn i chwaraewyr timau eraill, a threfnu canlyniadau gemau. Derbyniodd swm o arian gan y papur newydd y Daily Mirror. Trodd llawer o swyddogion a ffans Leeds yn ei erbyn, ond daliodd i fynnu fod y cyhuddiadau yn erbyn Sprake yn gywir.

Dioddefodd am rai blynyddoedd o boenau yn ei gefn, ac fe'i beirniadwyd gan rai am fethu ag arbed y bêl, ar adegau.

Remove ads

Cofiant

  • Careless Hands: The Forgotten Truth of Gary Sprake, gan Tim Johnson & Stuart Sprake

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads