Google

From Wikipedia, the free encyclopedia

Google
Remove ads

Cwmni cyhoeddus Americanaidd sy'n darparu gwasanaethau rhyngrwyd yw Google Inc. Ei beiriant chwilio yw'r mwyaf o ran maint a phoblogrwydd ar y we, a cheir fersiynau ar gyfer y rhan fwyaf o wledydd y byd, mewn dros gant o ieithoedd. Mae'n defnyddio amryw o ffactorau er mwyn asesu pwysigrwydd gwefan.

Ffeithiau sydyn Math, Math o fusnes ...
Remove ads

Enw

Mae'r enw "Google" yn chwarae ar y gair "googol", sef 10100 (1 wedi'i ddilyn gan gant o seroau). Mae Google wedi dod yn enwog am ei ddiwylliant corfforaethol a'i gynnyrch newydd a datblygedig, ac wedi cael effaith enfawr ar ddiwylliant ar-lein. Mae'r ferf Saesneg "google" wedi dod i olygu "i chwilio'r we am wybodaeth", ac mae "googlo" neu "gwglo" wedi ymddangos ar rai gwefannau Cymraeg fel cyfieithiad e.e. "Wyt ti wedi gwglo'r gair 'roced'?".

Remove ads

Hanes

Lawsnsiwyd Google yn Awst 1996 fel 'BackRub' gan Larry Page a Sergey Brin tra oeddent yn fyfyrwyr yn Stanford, UDA. Dechreuodd BackRub ar weinydd (server) preifat Page i ddechrau.[1]

Yn 1998 symudodd y cwmni i garej Susan Wojkicki a chael ei hail-enwi'n Google fel cwmni corfforedig. Dechreuodd y cwmni gyda buddsoddiad o $100,000 gan gyd-sylfaenydd Sun Microsystems, Andy Bechtolsheim.[1]

Busnes

Un o fentrau diweddaraf Google yw buddsoddiad sylweddol, gyda In-Q-Tel (arf buddsoddi'r CIA) ac Amazon, yn y cwmni newydd Recorded Future, prosiect hel gwybodaeth arlein yn fyw trwy chwilio'n drwyadl degau o filoedd o wefannau, blogiau a chyfrifon Twitter gan gysylltu'r wybodaeth ar unwaith i greu darlun o bwy sy'n gwneud be a phwy sy'n cysylltu gyda phwy ar y rhyngrwyd.[2]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads