X (Rhwydweithio cymdeithasol)

gwefan rwydweithio cymdeithasol a meicro-flogio From Wikipedia, the free encyclopedia

X (Rhwydweithio cymdeithasol)
Remove ads

Gwefan rwydweithio cymdeithasol a meicro-flogio yw X, a adnabuwyd yn flaenorol fel Twitter[1] (weithiau Trydar mewn Cymraeg answyddogol). Mae'n caniatau defnyddwyr anfon a darllen negeseuon defnyddwyr eraill (a elwir yn tweets yn y Saesneg), a phostio lluniau/fideos. Arddangosir y negeseuon ar dudalen broffil yr awdur a chânt eu dosbarthu i danysgrifwyr yr awdur a elwir yn ddilynwyr.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Crëwr ...
Remove ads

Hanes

Ers i'r gwasanaeth gael ei greu yn 2006 gan Jack Dorsey, daeth Twitter yn wasanaeth poblogaidd a dylanwadol, er fod nifer y defnyddwyr yn llai na gwasanaethau cyfatebol fel Facebook a Instagram. Weithiau caiff ei ddisgrifio fel "negeseuon testun y rhyngrwyd".[2]

Ar y cychwyn roedd cyfyngiad o 140 nod neu lai i bob neges, er mwyn cymhathu gyda negeseuon SMS - fe ehangwyd hyn i 280 nod yn 2017. Mae'r gwasanaeth sylfaenol am ddim ac yn cynnwys hysbysebion o fewn y ffrwd negeseuon. Ers 2021 gall defnyddwyr dalu tanysgrifiad i cael nodweddion uwch yn cynnwys postio negeseuon hyd at 4000 nod. Gall yr awdur gyfyngu ar bwy sy'n gweld ei negeseuon, neu gall ganiatáu i bawb eu gweld. Ers diwedd 2009, gall defnyddwyr ddilyn rhestrau o awduron yn hytrach na dilyn awduron unigol.[3] Gall defnyddiwr bostio drwy wefan Twitter, yr ap swyddogol ar ddyfeisiau symudol a Tweetdeck. Diddymwyd y dull negeseuon testun yn 2020.

Prynwyd y cwmni gan Elon Musk yn Hydref 2022 am $44 biliwn.[4] Ers hynny gwnaed nifer o benderfyniadau dadleuol gan Musk yn cynnwys diswyddo canran sylweddol o'r staff er mwyn arbed arian.[5] Yn ogystal, tynnwyd mynediad am ddim i API Twitter, gan orfodi pob ap allanol i gau lawr. Yng Ngorffennaf 2023 cychwynodd y gwaith o ail-frandio y gwasanaeth fel X.[1]

Remove ads

Hashnod

Fe wnaeth Twitter boblogeiddio'r arfer o roi hashnod cyn gair neu dalfyriad er mwyn creu cymuned o ddiddordeb o gylch pwnc neu ddigwyddiad benodol. Mae'r defnydd o'r hashnod hefyd wedi ei ddefnyddio i boblogeiddio ymgyrchoedd gwleidyddol yn ogysal â hybu busnes. Nid oes modd defnyddio marciau atalnodi fel symbolau yr ebychnod fel rhan o'r gair yn yr hashnod.

Cyfrifon Cymraeg

Mae gan Wici Cymru gyfri trydar (@WiciCymru) sy'n ymgyrchu dros ryddhau gwybodaeth ar drwydded agored ac yn cefnogi prosiect Wicimedia, gan gynnwys y Wicipedia. Ceir hefyd @Wicipedia - sy'n drydariad awtomatig, sy'n hysbysu ei ddilynwyr o erthyglau newydd.

Yn y Gymraeg, yr hashnod gyson mwyaf poblogaidd ei ddefnydd yw hashnod #yagym ('Yr Awr Gymraeg') a weinyddir gan gyfrif @YrAwrGymraeg gan Huw Marshall.

Gweler hefyd

Ffynonellau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads