Grŵp yn y tabl cyfnodol

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Mae grŵp yn deulu o elfennau tebyg mewn colofn fertigol o'r tabl cyfnodol.

Ffeithiau sydyn Math, Rhan o ...

Ystyrir grwpiau yn un o brif nodweddion defnyddiol y tabl cyfnodol. Mae bron pob grŵp yn cynnwys elfennau tebyg, gyda phatrymau ym mhriodweddau'r elfennau wrth fynd i lawr grŵp. Rhoddir enwau i nifer o'r grwpiau hyn, yn cynnwys y Metelau alcalïaidd (grŵp 1), yr Halogenau (grŵp 7) a'r nwyon nobl (grŵp 0). Mae rhai grwpiau, yn enwedig yn y bloc-p, yn dangos llai o debygrwydd ymysg yr elfennau felly nid oes enw ychwanegol (e.e. Grŵp 14 a Grŵp 15). Gall theorïau mecaneg cwantwm modern o adeiledd atomig egluro'r patrymau hyn. Mae pob elfen yn yr un grŵp yn cynnwys yr un nifer o electronau yn eu plisg falens (y plisg allanol) sy'n rheoli eu priodweddau cemegol.

Remove ads

Y grwpiau

Dyma grwpiau’r tabl cyfnodol:

Rhagor o wybodaeth Trefn rhifo newydd IUPAC, Yr hen IUPAC (Ewropeaidd) ...
Remove ads

Gweler hefyd

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads