Grid Trydan Cenedlaethol (gwledydd Prydain)

From Wikipedia, the free encyclopedia

Grid Trydan Cenedlaethol (gwledydd Prydain)
Remove ads

Rhwydwaith dargludo trydan foltedd uchel yw'r Grid Trydan Cenedlaethol. Mae'n cysylltu gorsafoedd ynni ac is-orsafoedd trydan i'r defnyddiwr yn yr Alban, Cymru a Lloegr. Ceir cysylltiadau o dan y môr i ogledd Iwerddon (HVDC Moyle), Gweriniaeth Iwerddon (EirGrid), Ynys Manaw (Isle of Man to England Interconnector) a Ffrainc (HVDC Cross-Channel).

Thumb
Peilon a cheblau 400 kV yn Swydd Gaer
Thumb
Y trydan a gynhyrchwyd ac a ddosbarthwyd gan y grid rhwng 1920 a 2014[1]

Pan ddad-genedlaetholwyd y Bwrdd Trydan Canolog yn 1990, trosglwyddwyd ei perchnogaeth y Grid Cenedlaethol i'r National Grid Company plc, a newididodd ei enw'n ddiweddarach i National Grid Transco, ac wedyn i National Grid plc. Holltwyd y grid yn ddau yn yr Alban: un i dde a chanol yr Alban (SP Energy Networks, un o isgwmniau Scottish Power) a'r llall i ogledd yr Alban (SSE plc); o ran gweinyddu a goruchwylio, mae'r National Grid plc yn gyfrifol am yr Alban a gweddill gwledydd Prydain.

Remove ads

Rheolaeth

Mae rhan Cymru a Lloegr o'r grid yn cael ei rheoli gan Ganolfan Rheoli'r Grid Cenedlaethol yn 'St Catherine's Lodge', Sindlesham, Wokingham yn Berkshire.[2][3]

Symudiad y trydan

Mae'r diagram isod yn dangos rhwydwaith dosbarthu trydan sy'n debyg i'r grid cenedlaethol. Thumb Egni cinetig sydd ei angen i greu trydan. Y ffordd fwyaf effeithlon o gynhyrchu egni cinetig ar hyn o bryd yw i wresogi dŵr i greu ager sydd wedyn yn gyrru tyrbin. Wrth i tua 25,000 V o drydan adael y pŵerdŷ neu'r felin wynt mae'n troi'r foltedd i tua 400,000 V (400 kV) ar y peilonau uwchben oherwydd mae foltedd uchel yn lleihau'r cerrynt ac felly mae yna lai o wres yn cael ei golli. Mae 'newidydd gostwng' yn newid y foltedd i lawr i 230 V yn nes at gartrefi'r cwsmeriad.

Mae'r folteddau yn amrywio o wlad i wlad; yng ngwledydd Prydain mae oddeutu 240v.

Remove ads

Cymru

Yng Nghymru mae'r grid dosbarthu trydan wedi cyrraedd ei uchafswm mewn rhai mannau o gefn gwlad, gyda nifer o gwmnïau creu trydan yn cael eu gwrthod. Yn ôl Chris Blake, Cyfarwyddwr Cymoedd Gwyrdd, "Mae rhannau maith o ganolbarth a gorllewin Cymru a llefydd fel Dyfnaint a Chernyw a Gwlad yr Haf i bob pwrpas ar gau i adfywiad ynni adnewyddol am fod y grid yn llawn".[4]

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads