Guildford
tref yn Surrey From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref yn Surrey, De-ddwyrain Lloegr, yw Guildford.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Guildford, ac mae pencadlys yr ardal yn y dref. Mae'n dref sirol Surrey,[2] ac mae'n bencadlys gweinyddu rhanbarth De-ddwyrain Lloegr hefyd. Lleolir Cyngor Sir Surrey yn Kingston upon Thames[3] sydd yn Llundain Fwyaf erbyn hyn.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Guildford boblogaeth o 77,057.[4]
Mae'r dref wedi ei geffeillio gyda Freiburg im Breisgau yn ne'r Almaen,[5] ac wedi ei chysylltu â Mukono yng nghanolbarth Wganda.[6]
Mae Caerdydd 183 km i ffwrdd o Guildford ac mae Llundain yn 45.2 km. Y ddinas agosaf ydy Dinas Westminster sy'n 42.4 km i ffwrdd. Lleolir tua 50 km (31 milltir) i'r de-orllewin o Lundain, ar ffordd yr A3 sy'n cysylltu'r brifddinas gyda Portsmouth.
Remove ads
Adeiladau a chofadeiladau
- Canolfan Friary
- Castell
- Eglwys Gadeiriol
- Guildhall
- Ysbyty'r Drindod
- Ysgol Ramadeg Brenhinol
Enwogion
- P. G. Wodehouse (1881-1975), awdur
- David Hemmings (1941-2003), actor
- Tony Blackburn (g. 1943), DJ
- Elizabeth Buchan (g. 1948), nofelydd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
