Guto Bebb
gwleidydd Cymreig a oedd yn Aelod Seneddol From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwleidydd o Gymru yw Guto ap Owain Bebb (ganed 9 Hydref, 1968[1]) oedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol yn San Steffan rhwng 7 Mai 2010 pan enillodd etholaeth Aberconwy,ac Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2019. Mae'n Gymro Cymraeg.
Ganed Bebb yn Wrecsam yn 1968.[2] Cafodd ei fagu yng ngogledd Cymru a'i addysgu yn Ysgol Syr Hugh Owen ac ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.[3] Mae'n ŵyr i William Ambrose Bebb (1894-1955), un o sylfaenwyr Plaid Cymru.[1]
Gadawodd Blaid Cymru ar ôl cyfnod fel asiant y blaid yn etholaeth Caernarfon yn 2001 i ymuno â'r Ceidwadwyr.[1][4] Safodd fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr mewn is-etholiad yn 2002; daeth yn bedwerydd gyda 1,377 (7.5%) pleidlais.[5] Yn etholiad cyffredinol 2005 safodd fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth seneddol Conwy a daeth yn ail gyda 9,398 (27.9%) pleidlais.[5] Yn etholiad cyffredinol 2010 enillodd sedd newydd Aberconwy gyda 10,734 (35.8%) pleidlais.[5] Cafodd ei olynu gan geidwadwr arall, Robin Millar.
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads