Caernarfon (etholaeth seneddol)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd etholaeth Caernarfon yn ethol aelodau i senedd San Steffan yng ngogledd Cymru. Yn ddaearyddol, mae'r etholaeth yn rhan o Wynedd, gan gynnwys Llŷn i gyd. Rhwng 1832 a 1950, yr enw oedd Bwrdeistrefi Caernarfon.
Remove ads
Hanes
O dan y Deddfau Uno roedd gan bob Sir yng Nghymru (ac eithrio Sir Feirionnydd) yr hawl i ddanfon dau Aelod Seneddol i San Steffan, un ar gyfer y Sir ac un ar gyfer y Bwrdeistrefi. Bwrdeistrefi Sir Gaernarfon oedd trefi Caernarfon, Conwy, Cricieth, Nefyn a Phwllheli ac o 1832 Bangor.
O 1536 i 1832 enw'r etholaeth oedd Caernarfon sef enw'r brif fwrdeistref, o 1832 hyd 1950 enw'r etholaeth oedd Bwrdeistrefi Caernarfon, cyn troi yn ôl i'r hen enw Caernarfon o 1950 hyd ei ddiddymu yn 2010.
Ym 1918 cafodd ffiniau'r etholaeth ei had-drefnu, fel ei fod yn cynnwys ardaloedd llywodraeth leol bwrdeistrefi trefol Bangor, Caernarfon, Conwy, a Phwllheli; rhanbarthau trefol Criccieth, Llandudno, Llanfairfechan, Penmaenmawr ac ardal wledig Llŷn.
Ym 1950 caed gwared â'r rhaniad Bwrdeistref a Sir a rhannwyd Sir Gaernarfon yn ddwy etholaeth sirol Caernarfon yng Ngorllewin y Sir a Chonwy yn y dwyrain, crëwyd y seddi newydd o adrannau a oedd yn arfer bod yn y ddwy hen sedd.
Bu man newidiai eraill i ffiniau'r etholaeth ym 1983.
Er gwaethaf yr holl newidiadau i'r ffiniau y mae'r rhan fwyaf o lyfrau ar hanes cynrychiolaeth seneddol yn ystyried bod olyniaeth barhaus yn bodoli o ethol John Pulston fel yr aelod cyntaf i gynrychioli Caernarfon i Senedd 1542 hyd ethol Hywel Williams ar gyfer Senedd 2005-2010.[1][2]
Diddymwyd yr etholaeth yn 2010 gyda rhannau ohoni yn cael ei gynnwys yn etholaeth newydd Dwyfor Meirionnydd ac eraill yn etholaeth Arfon.
Remove ads
Aelodau Seneddol
- 1542 John Puleston
- 1545 Robert Gruffydd
- 1547 Robert Puleston
- 1553 (Mawrth) Gruffydd Davies
- 1553 (Hydref) Henry Robins
- 1554 (Ebrill) Henry Robins
- 1554 (Tachwed) Syr Rhys Gruffydd
- 1555 ?
- 1558 Robert Gruffydd
- 1558 Maurice Davies
- 1563 John Harington
- 1571 John Griffith
- 1584 Edward Griffith
- 1586 William Griffith I
- 1588 Robert Wynn
- 1593 Robert Griffith
- 1597 John Owen
- 1601 Nicholas Griffith
- 1604 John Griffith
- 1605 Clement Edmondes
- 1614 Nicholas Griffith
- 1621 Nicholas Griffith
- 1624 Peter Mutton
- 1625 Edward Littleton
- 1626 Robert Jones
- 1628 Edward Littleton
- 1640 (Ebrill)John Glynne
- 1640 (Tachwedd) William Thomas
- 1647 William Foxwist
Dim cynrychiolaeth ym 1653, 1654 na 1656
- 1659 Robert Williams
- 1660 – 1661: William Glynne
- 1661 – 1679: William Griffith
- 1679 – 1685: Thomas Mostyn
- 1685 – 1689: John Griffith
- 1689 – 1698: Syr Robert Owen
- 1698 – 1705: Syr John Wynn (5ed barwned)
- 1705 – 1708: Thomas Bulkeley
- 1708 – 1713: William Griffith
- 1713 – 1749: Syr Thomas Wynn
- 1749 – 1754: Syr William Wynn
- 1754 – 1761: Robert Wynne
- 1761 – 1768: Syr John Wynn
- 1768 – 1790: Glyn Wynn
- 1790 – 1796: Henry Paget, Ardalydd 1af Môn
- 1796 – 1806: Edward Paget
- 1806 – 1826: Charles Paget
- 1826 – 1830: Yr Arglwydd William Paget
- 1830 – 1831: William Ormsby-Gore
- 1831 – 1833: Syr Charles Paget (Rhyddfrydol)
- 1833 – 1833: Owen Jones Ellis Nanney (Ceidwadol)
- 1833 – 1835: Syr Charles Paget (Rhyddfrydol)
- 1835 – 1837: Love Parry Jones-Parry (Rhyddfrydol)
- 1837 – 1859: William Bulkeley Hughes (Ceidwadol)
- 1859 – 1865: Charles Wynne (Ceidwadol)
- 1865 – 1882: William Bulkeley Hughes (Rhyddfrydol)
- 1882 – 1886: Love Jones-Parry (Rhyddfrydol)
- 1886 – 1890: Edmund Swetenham (Ceidwadol)
- 1890 – 1945: David Lloyd George (Rhyddfrydol)
- 1945 – 1945: David Davies (Rhyddfrydol)
- 1945 – 1950: David Price-White (Ceidwadol)
- 1950 – 1974: Goronwy Roberts (Llafur)
- 1974 – 2001: Dafydd Wigley (Plaid Cymru)
- 2001 – 2010: Hywel Williams (Plaid Cymru)
Remove ads
Etholiadau
Etholiadau yn y 2000au
Etholiadau yn y 1990au
Etholiadau yn y 1980au

Etholiadau yn y 1970au


Etholiadau yn y 1960au
Etholiadau yn y 1950au
Etholiadau yn y 1940au
Etholiadau yn y 1930au
Etholiadau yn y 1920au
Etholiadau yn y 1910au

Etholiadau yn y 1900au

Etholiadau yn y 1890au

Etholiadau yn y 1880au

Etholiadau yn y 1870au

Yn Etholiad cyffredinol 1874 etholwyd William Bulkley Hughes yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol
Etholiadau yn y 1860au
Yn Etholiad cyffredinol 1865 etholwyd William Bulkley Hughes yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol
Etholiadau yn y 1850au
Yn Etholiad cyffredinol 1857 ail etholwyd William Bulkley Hughes yn ddiwrthwynebiad
Etholiadau yn y 1840au
Etholiadau yn y 1830au
Cyflwynwyd deiseb i herio'r canlyniad ym mis Mawrth 1833, disodlwyd Paget a gwnaed Nanney yn AS yn ei le ond ar apêl adferwyd y sedd i Paget ym mis Mai 1833.
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads