Guto Ffowc
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd Guido "Guy" Fawkes, neu Guto Ffowc yn Gymraeg, (13 Ebrill 1570 – 31 Ionawr 1606), yn aelod o grŵp o Gatholigion Rhufeinig Seisnig a geisiodd gyflawni Cynllwyn y Powdr Gwn (neu'r 'Cynllwyn Pabaidd'), ymgais i chwythu i fyny Senedd Lloegr a lladd y brenin Iago I o Loegr, a thrwy hynny ddinistrio'r llywodraeth Brotestannaidd trwy ladd y pendefigion Protestannaidd, ar 5 Tachwedd 1605, digwyddiad a goffeir ar Noson Guto Ffowc. Aflwyddiannus fu'r cynllwyn.
Remove ads
Bywgraffiad
Ganed Guto yn Efrog, a threuliodd flynyddoedd fel milwr ym myddin Sbaen. Cyflwynwyd ef i Robert Catesby, arweinydd Cynllwyn y Powdr Gwn, gan y Cymro Hugh Owen. Fel milwr profiadol, roedd ei brofiad o bwysigrwydd mawr i lwyddiant yr ymgais. Fodd bynnag, cafwyd hyd i'r powdwr gwn oedd wedi ei osod mewn seler dan y Senedd cyn i Guto gael y cyfle i'w ffrwydro. Daliwyd ef a'r cynllwynwyr eraill a chafodd ei arteithio, ei gael yn euog o deyrnfradwriaeth a'i ddienyddio tri mis yn ddiweddarach. Ysgrifennai Ffowc ei enw cyntaf yn ei ffurf Eidaleg Guido, sy'n rhoi Guto yn Gymraeg.
Remove ads
Noson Guto Ffowc

Tan yn ddiweddar iawn arferai plant a phobl ifanc yng ngwledydd Prydain fynd o dŷ i dŷ ddechrau fis Tachwedd gyda Guto - dymi o ddyn wedi'i wneud o hen ddillad a gwellt - i hel pres at Noson Guto Ffowc. Ar y noson honno rhoddid y "Guto" ar ben y goelcerth a'i losgi.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads