Limerick

dinas, Yr Iwerddon From Wikipedia, the free encyclopedia

Limerick
Remove ads

Prifddinas Swydd Limerick yn nhalaith Munster, Gweriniaeth Iwerddon, yw Limerick (Gwyddeleg: Luimneach).[1] Saif y ddinas ar Afon Shannon, ac roedd y boblogaeth yn 2006 yn 91,000. Saif tua 195 km i'r gorllewin o ddinas Dulyn.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Mae'r ddinas yn ddyddio o leiaf o gyfnod ymsefydliad y Llychlynwyr yn 812, ac mae nifer o'r adeiladau, megis Castell y Brenin John, yn dyddio o'r cyfnod Normanaidd. Roedd yn ddinas o bwysigrwydd strategol yn rhyfeloedd y 17g, a gwarchaewyd arni gan Oliver Cromwell yn 1651. Dirywiodd sefyllfa economaidd y ddinas yn dilyn Deddf Uno 1801 a Newyn Mawr Iwerddon, a dim ond yn ddiweddar mae wedi adfywio.

Thumb
Castell y Brenin John, ar lan ddeheuol Afon Shannon, gyda Phont Thomond
Remove ads

Adeiladau a chofadeiladau

  • Amgueddfa Hunt
  • Castell y Brenin John
  • Eglwys gadeiriol Sant Ioan
  • Eglwys gadeiriol Santes Fair

Enwogion

Chwaraeon

Mae'r ddinas yn gartref i dîm rygbi Munster sy'n chwarae yn y Pro14. Maent yn chwarae yn stadiwm Parc Thomond

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads