Gwipavaz
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Gwipavaz (Ffrangeg: Guipavas) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Plabennec, Brest, La Forest-Landerneau, Gouesnou, Kersaint-Plabennec, Le Relecq-Kerhuon, Saint-Divy ac mae ganddi boblogaeth o tua 15,401 (1 Ionawr 2022).
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Daw'r enw o'r Llydaweg gwic (tref) a bevoez (coedwig mawr).
Remove ads
Poblogaeth
Cysylltiadau Rhyngwladol
Mae Gwipavaz wedi'i gefeillio â:
Adeiladau crefyddol
Mae nifer o adeiladau crefyddol nodweddiadol yng nghymuned Gwipavaz
Eglwys Sant Pedr a Sant Paul
Adeiladwyd rhwng 1952 a 1955 gan y pensaer Michel Brest; mae’n nodweddiadol gan fod ei chlochdy yn annibynnol i gorff yr eglwys ac yn weladwy o bellteroedd. Mae porth yr eglwys, sydd wedi ei gadw o'r eglwys flaenorol, yn cynnwys cerfluniau o'r deuddeg apostol ac yn heneb gofrestredig[1]
- Porth
- Porth
- Clochdy
- Porth
- Chwech o'r Apostolion
- Y 6 Apostol arall
- Calfaria
Capel Ein Morwyn ar y Bryn
Saif Capel Ein Morwyn ar y Bryn (Notre-Dame-du-Reun) 93 metr uwchben lefel y môr. Mae'r capel presennol yn dyddio o'r 19g ac wedi ei hadeiladu i gymryd lle eglwys gynharach a adeiladwyd gan Sant Thudon ei hun yn y 7c. Cafodd y capel ei hadfer ym 1805, a'i ddifrodi'n wael yn ystod yr ymladd i ryddha Brest ym mis Awst 1944; ail- adferwyd y capel ym 1952.[2]
Capel Saint-Yves
Adeiladwyd ym 1892 o gerrig hen gapel maenor Keroudaut[3].
- Clochdy'r capel
Notre-Dame-de-Tourbian
Dyma eglwys fodern y plwyf, wedi ei gysegru 26 Medi, 1993
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads