Gwobr Dylan Thomas

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Gwobr llenyddol ar gyfer llenorion ifanc yw Gwobr Dylan Thomas (Saesneg: Dylan Thomas Prize), a gaiff ei wobrwyo pob yn ail blwyddyn er cof am Dylan Thomas.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dechrau/Sefydlu ...

Mae'r wobr yn dod ag adnabyddiaeth rhyngwladol a gwobr ariannol o £30,000. Mae'n agored i waith yn yr iaith Saesneg gan unrhyw un o dan 30 oed. Argymhellir y gweithiau ar gyfer y wobr gan gyhoeddwr, golygydd neu asiant; neu ar gyfer dramâu theatr neu sgrin, gan y cynhyrchydd. Mae'r wobr yn anrhydeddu'r enillydd a'r rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwaith mewn ystod eang o'r ffurfiau llenyddol roedd Dylan Thomas yn rhagori ynddynt; mae hyn yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith, drama dychmygol, casgliadau o straeon byrion, nofelau, a dramâu ar gyfer theatr a'r sgrin.

Gwobrwywyd wobr llenyddol er cof Dylan Thomas am y tro cyntaf yn ystod yr 1980au (adnabuwyd yn Saesneg fel y Dylan Thomas Award), yn dilyn ymgyrch i osod plac i goffau'r bardd yn Abaty Westminster.[1] Cafodd cyllid dros ben a godwyd gan cyngerdd a noddwyd gan y cwmni teledu HTV ei gyfrannu er mwyn cynnig gwobr o £1000 yn flynyddol.[1] Ar ôl ychydig flynyddoedd, daeth y wobr i ben oherwydd diffyg ariannu. Ail-sefydlwyd y wobr dan ei newydd wedd yn 2004 a gwobrwywyd am y tro cyntaf yn 2006, gan gael ei noddi gan gwmni Electronic Data Systems, a oedd yn un o gyflogwyr mwyaf Abertawe ar y pryd.[2] Mae'r wobr yn cael ei redeg gan Brifysgol Cymru, ac ariannir gan gyfraniadau gwirfoddol.[3][4]

Cyflwynwyd gwobr ychwanegol o £5,000, a noddwyd gan Sony Reader, yn 2010, ar gyfer llenorion heb eu cyhoeddi. Enillwyd hon gan Stefan Mohamed, o Bowys, gyda'i nofel Bitter Sixteen.[5]

Remove ads

2012

Enillydd

  • Maggie Shipstead, Seating Arrangements[6]

Rhestr fer[7]

  • Tom Benn, The Doll Princess
  • Andrea Eames, The White Shadow
  • Chibundu Onuzo, The Spider King’s Daughter
  • Maggie Shipstead, Seating Arrangements
  • D.W. Wilson, Once You Break A Knuckle

2010

Enillydd

  • Elyse Fenton, Clamor

Rhestr fer[8]

  • Caroline Bird, Watering Can
  • Elyse Fenton, Clamor
  • Eleanor Catton, The Rehearsal
  • Karan Mahajan, Family Planning
  • Nadifa Mohamed, Black Mamba Boy
  • Emily Mackie, And this is true

Gwobr llenolion heb eu cyhoeddi

  • Stefan Mohamed, Bitter Sixteen

2008

Enillydd

  • Nam Le, The Boat

Rhestr fer

  • Caroline Bird, Trouble Came to the Turnip
  • Ross Raisin, God’s Own Country
  • Ceridwen Dovey, Blood Kin
  • Edward Hogan, Blackmoor
  • Nam Le, The Boat
  • Dinaw Mengestu, Children of the Revolution

2006

Enillydd

Rhestr fer[9]

  • Lucy Caldwell, Where They Were Missed
  • Ian Holding, Unfeeling
  • Nick Laird, Utterly Monkey a To a Fault (dau ymgeisydd)
  • James Scudamore, The Amnesia Clinic
  • Rachel Trezise, Fresh Apples
  • Liza Ward, Outside Valentine

Enillwyr yr hen wobr

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads