HTV

From Wikipedia, the free encyclopedia

HTV
Remove ads

Roedd ITV Wales and West, a elwid gynt yn Harlech Television (HTV), yn fasnachfraint ITV yng ngwledydd Prydain hyd at 31 Rhagfyr 2013, a drwyddedwyd i ddarlledu gan y rheoleiddiwr Ofcom.[1] Rhannwyd y fasnachfraint yn ddwy ran, yn ddwy rhanbarth: Cymru a Gorllewin Lloegr.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dechrau/Sefydlu ...

Cwmni teledu yng Nghymru a gorllewin Lloegr yw HTV Group plc, rhan o rwydwaith ITV; ni fu erioed sianel o'r enw ITV Wales and West.

Dechreuodd ddarlledu yn 1968. Y cwmnïau teledu a oedd yn darlledu i Gymru cyn hyn oedd TWW (Television Wales and West) yn y de-dwyrain rhwng 1958 a 1968, ac i Gymru gyfan rhwng 1964 a 1968, a WWN (Wales (West and North)/Teledu Cymru) yn y gogledd a'r gorllewin rhwng 1962 a 1964. Roedd HTV yn darlledu yn Saesneg ac ychydig o raglenni Cymraeg cyn 1982.

Ar ôl sefydlu S4C, yn Saesneg yn unig mae'n darlledu, er ei fod yn cynhyrchu rhaglenni Cymraeg dam gomisiwn i S4C ddarlledu. Roedd HTV yn gwmni annibynnol, ond daeth dan berchnogaeth ITV plc yn 1996. Y cadeirydd yn 1968 oedd Arglwydd Harlech a gafodd ei ladd yn 1985 mewn damwain car.

Erbyn 2002 doedd logo HTV ddim yn cael ei ddefnyddio. Yn hytrach defnyddid logo yr enw newydd “ITV1 Wales”.

Y perchnogion ar ôl 1996 oedd:

  • United News and Media 1996 - 2001,
  • Carlton Communications 2001 - 2003,
  • ITV Plc 2003 -
Remove ads

Yr Amnewidiadau: ITV Wales ac ITV West

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads