Hwb

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Gwefan a chasgliad o offer ar-lein yw Hwb a ddarperir i bob ysgol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Fe'i crëwyd mewn ymateb i'r adroddiad 'Dod o Hyd iddo, Ei Wneud, Ei Ddefnyddio, Ei Rannu' ar Ddysgu Digidol yng Nghymru a sbardunwyd gan y Gweinidog Addysg ar y pryd, Leighton Andrews.[1]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dechrau/Sefydlu ...

Mae Hwb yn darparu mynediad i offer fel Microsoft Office 365, Google Classroom, J2e, ac Adobe Spark i gyd am ddim i fyfyrwyr yng Nghymru.

Erbyn 2015 roedd y brif wefan yn cynnwys dros 88,000 o adnoddau dwyieithog a drosglwyddwyd o GCaD Cymru. Yn ogystal, gall athrawon a dysgwyr sydd â chyfrifon fewngofnodi a chael mynediad at ystod o offer ac adnoddau ar-lein eraill. Yn gynwysedig yn hwn mae Llwyfan Dysgu ysgol-benodol (Hwb+).[2]

Remove ads

Lansio

Thumb
Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg yn Llywodraeth Cymru a ysgogodd creu porth addysgol 'Hwb'

Lansiwyd y porth ar lefel peilot yn 2012 wedi'i gynllunio i alluogi holl ddisgyblion ac athrawon Cymru i gael mynediad gwell at adnoddau ar-lein. Roedd yn galluogi defnyddwyr i gael mynediad at a rhannu gwybodaeth ac mae i fod ar gael o unrhyw ddyfais sy’n galluogi’r rhyngrwyd. Cafwyd prosiect peilot mewn pedair ysgol yng Nghaerdydd.

Disgrifiodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, y system fel system "o'r radd flaenaf" ar gyfer y rhai rhwng tair a 19 oed.[3]

Remove ads

Cynnwys

Mae'r porth yn cynnwys adnoddau a deunydd yn holl bynciau a ddysgu yn system addysg orfodol Cymru. Mae'r rhain wedi eu rhestri o dan brif themâu: [4]

  • Y Celfyddydau Mynegiannol

Yn cynnwys celf, dawns, drama, ffilm, a chyfryngau digidol, a cherddoriaeth

  • Iechyd a Lles

Yn cynnwys datblygu iechyd corfforol, iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol

  • Y Dyniaethau

Yn cynnwys daearyddiaeth, hanes, astudiaethau busnes, astudiaethau cymdeithasol, a chrefydd, gwerthoedd a moeseg

  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Yn galluogi dysgwyr i feithrin gwybodaeth a datblygu sgiliau yn Gymraeg, Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol

  • Mathemateg a Rhifedd

Yn cynnwys y system rif, algebra, geometreg, ystadegau a data

  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Yn cynnwys bioleg, ffiseg, cemeg a chyfrifiadureg

  • Dysgu Sylfaen

Dulliau dysgu ac addysgu addysg gynnar i leoliadau ac ysgolion

  • Cynllunio cwricwlwm

Cefnogi ysgolion a lleoliadau yn eu datblygiad parhaus o'u cwricwla

Ceir hefyd manylion am Cwricwlwm i Gymru, calendr digwyddiadau, gwybodaeth dysgu proffesiynol, addysg Minecraft a Siarter Iaith.[5]

Remove ads

Ymestyn

Yn Ionawr 2021 yn sgil Covid-19 cyhoeddod S4C eu bod yn rhyddhau 80 awr o raglenni addysgol ar y porth. Roedd y rhaglenni ar Hwb yn cynnwys 13 cyfres wahanol gan gynnwys cyfresi plant Shwshaswyn, Dwylo'r Enfys, Amser Maith Maith yn ôl, a hefyd rhaglenni o'r brif amserlen fel Cynefin a DRYCH.

Cynhwyswyd hefyd ffilmiau a chynnwys sydd ar y cwricwlwm Safon A, AS a TGAU hefyd yn cael eu hychwanegu i'r platfform ac yn dod yn rhan o arlwy S4C ar Hwb gan gynnwys Martha Jac a Sianco, ac Y Gwyll.[6]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads