Minecraft

From Wikipedia, the free encyclopedia

Minecraft
Remove ads

Mae Minecraft yn gêm cyfrifiadur a grëwyd yn wreiddiol gan y rhaglennwr Swedeg Markus "Notch" Persson ac wedyn datblygwyd a chyhoeddwyd gan Mojang.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Y gwrthwyneb ...

Mae Minecraft yn gêm lle mae'r chwaraewyr yn gallu creu eu profiad eu hun. Mae'r chwaraewr yn cloddio ac adeiladu blociau lliw i greu byd o wahanol diroedd ac wedyn yn ceisio i'w fentro trwodd. Mae pob buwch yn minecraft yn fenywaidd gan eu bod i gyd yn gallu cynhyrchu llefrith. Mae'r haul yn codi ac yn nosi ac mae'r tywydd yn newid wrthi i'r chwaraewr fynd at i gasglu adnoddau a gwneud offer. Mae anifeiliaid i'w ffermio neu ddefnyddio am fwyd, gan ddibynnu ar ba modd sydd wedi'i ddewis bydd angen ymladd i gadw'n fyw yn erbyn peryglon a'r cymeriadau drwg.[4]

Fe lansiwyd y fersiwn prawf ar gyfer datblygwyr ym Mai 2009 a lansiwyd y fersiwn i'r cyhoedd yn 2011 ar gyfer PC, Mac ac Android. Rhyddhawyd fersiwn ar gyfer Xbox yn 2012 ac ar gyfer PlayStation 3 yn 2013. Mae'r holl fersiynau o Minecraft yn derbyn diweddariadau cyson.

Yn 2012 rhyddhawyd set Lego a seiliwyd ar Minecraft o'r enw Lego Minecraft.

Remove ads

Poblogrwydd

Erbyn 2015 roedd Minecraft wedi gwerthu 70 miliwn o gopïau gan ei wneud yn un o'r gemau mwyaf poblogaidd erioed. Yn 2014 fe brynwyd Mojang a Minecraft gan Microsoft am $2.5 biliwn.[5]

Chwarae

Thumb
Bloc Minecraft

Ar ddechrau'r gêm, mae'r chwaraewr yn cael ei osod ar wyneb byd di-ben-draw. Mae'r byd wedi'i rannu i biomes sy'n cynnwys anialwch, jyngl, fforestydd ac eira. Mae system amser y gêm yn dilyn dydd a nos, gydag un cylch cyfan yn parhau 20 munud. Yn ystod y gêm mae'r chwaraewyr yn dod ar draws mobs o gymeriadau yn cynnwys anifeiliaid, pentrefwyr a chreaduriaid gelyniaethus.

Mae'r anifeiliaid fel moch, gwartheg ac ieir yn gallu cael eu hela am fwyd ac yn ymddangos yn y dydd. Yn y nos mae mobs drwg fel zombîs, ysgerbydau a phryfed cop yn ymddangos.

Mae sawl modd ar gael, yn cynnwys survival mode ble mae rhaid i'r chwaraewr gasglu adnoddau i adeiladu'r byd a chadw'n fyw, creative mode ble mae chwaraewr yn cael cyflenwad di-ddiwedd o adnoddau i adeiladu, adventure mode ble mae chwaraewyr yn defnyddio mapiau a grëwyd gan bobl eraill, spectator mode ble mae chwaraewyr yn hedfan drwy blociau ond ddim yn cael gosod blociau a'r hardcore mode ble mae chwaraewyr o dan berygl o farw am byth. Mae'r fersiwn PC o'r gêm yn adnabyddus am y nifer fawr o ychwanegion sy'n rhoi mwy o gymeriadau a heriau.[4][6]

Remove ads

Minecraft yn Gymraeg

Mae Minecraft: Java Edition wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg gan gefnogwyr trwy brosiect cyfieithu swyddogol Mojang ar Crowdin.[7]

Gweler hefyd

  • Creeper (Minecraft)
  • Steve (Minecraft)

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads