Hychan

Sant o'r 5ed ganrif From Wikipedia, the free encyclopedia

Hychan
Remove ads

Sant a gŵr Cristnogol oedd Hychan a fu'n byw yn yr hyn a elwir heddiw yn Llanychan, ger Dinbych tua 450 OC; roedd ganddo hefyd gysylltiad gydag ardal Llanfarian, Aberystwyth.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Thumb
Llanychan, rhwng Rhewl a Gellifor, Rhuthun, Sir Ddinbych (Cyfeirnod OS: SJ 114621).

Yn Cognacio Brychan, De Situ Brecheniauc ac yn llawysgrif "Achresi Eglwys Crist MS 20", dywedir ei fod yn un o feibion Brychan, brenin a sant (fl. 5g), sefydlwr teyrnas Brycheiniog (yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru) yn ôl y traddodiad. Dethlir ei ddydd mabsant ar 8 Awst.[1]

Ceir dwy eglwys wedi'u henwi ar ei ôl.

Remove ads

Llanychan, Rhuthun

Sonir am Llanychan yn gyntaf yng 'Nghofnodion Treth Norwich' yn 1254.[2] Mae ei llan gylchog uchel yn nodedig iawn ac yn brawf y bu yma unwaith Eglwys Geltaidd, gynharach. Mae Eglwys Sant Hychan yn debyg iawn o ran arddull i Eglwys Sant Cynhafal, ond ei bod yn llawer llai ac nid oes iddi ddau gorff, nodwedd bensaernïol gyffredin iawn yn Nyffryn Clwyd. Yn y 16g ceir y sillafiad 'Llan Hichen'.

Llanfarian, Aberystwyth

Eglwys fechan yng nghymuned Llanfarian yw Eglwys Sant Hychan.[3] Cofnodir ei henw hefyd fel Llanychaiarn.[4] Mae hanner ei mynwent yn gron. Fe'i lleolir tua 350m i'r de o Gastell Tan-y-Bwlch (castell gwreiddiol Aberystwyth) a godwyd yn wreiddiol yn 1110; mae'n bosibl i'r eglwys gael ei chodi ar yr un pryd, neu'n gynharach, ond nid oedd plwyf Sant Hychan yn bodoli yn yr Oesoedd Canol, dim ond 'capel' a berthynai i Lanbadarn Fawr.

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads