ISO 639-3

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

ISO 639-3:2007, Codau am y gynrychiolaeth o'r enwau o ieithoedd — Rhan 3: Côd Alffa-3 ar gyfer sylw cyflawn o'r ieithoedd, yw safon ryngwladol am god ieithoedd yng nghyfres ISO 639. Mae'r safon yn disgrifio codau tair‐lythyren ar gyfer adnabod ieithoedd. Mae'n ehangu codau ISO 639-2 alffa-3 gyda'r amcan o roi sylw i bob iaith naturiol wybyddus. Cyhoeddwyd y safon gan ISO ar 2007-02-05.[1]

Rhagor o wybodaeth Dewch o hyd i iaith ...

Bwriedir defnyddio'r system mewn ystod eang o sefyllfaoedd, ond yn benodol mewn systemau cyfrifiaduron ble mae angen cefnogi nifer fawr o ieithoedd. Mae'n ceisio cynnwys cymaint o ieithoedd a phosib, gan gynnwys byw a darfodedig, hynafol ac adeiladu, mawr a bach, ysgrifenedig ac anysgrifenedig.[1] Nid yw'n cynnwys ieithoedd ailadeiladwyd fel Proto-Indo-Ewropeg.[2]

Mae'n uwchset o ISO 639-1 ac o'r ieithoedd unigol yn ISO 639-2. Roedd ISO 639-1 ac ISO 639-2 wedi canolbwyntio ar y prif ieithoedd, a oedd yn cynrychioli cyfran helaeth o holl lenyddiaeth y byd. Gan bod ISO 639-2 hefyd yn cynnwys casgliadau iaith a dydy Rhan 3 ddim, nid yw ISO 639-3 yn uwchset o ISO 639-2. Ble mae codau B a T bododi yn ISO 639-2, mae ISO 639-3 yn defnyddio'r codau T.

Esiampl:

Rhagor o wybodaeth Iaith, 639-1 ...
Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads