Ieuan Wyn Jones

cyfreithiwr, gwleidydd (1949- ) From Wikipedia, the free encyclopedia

Ieuan Wyn Jones
Remove ads

Gwleidydd o Gymru yw Ieuan Wyn Jones (ganwyd 22 Mai 1949). Bu'n Arweinydd Plaid Cymru rhwng 2006 a 2012 ac ef oedd Dirprwy Brif Weinidog Cymru o 2007 hyd 2011. Ymddiswyddodd o'r Cynulliad ar 20 Mehefin 2013 i weithio ym Mharc Gwyddoniaeth Ynys Môn ond dychwelodd at wleidyddiaeth ym Mehefin 2017 pan ymgeisiodd eto yn etholaeth Ynys Môn yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017.

Ffeithiau sydyn Rhagflaenydd, Geni ...
Remove ads

Teulu, addysg a gyrfa

Fe'i ganed yn Ninbych yn fab i weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yn siaradwr Cymraeg. Aeth i Ysgol Ramadeg Pontardawe, ac Ysgol y Berwyn, Y Bala. Astudiodd y gyfraith ym Mholitecnic Lerpwl, lle y cyfarfu â Dafydd Elis Thomas ac yn ddiweddarach aeth i Brifysgol Llundain.

Roedd yn briod i Eirian Llwyd hyd at ei marwolaeth yn 2014 ac roedd ganddynt dri o blant. Yn ei amser hamdden mae'n mwynhau astudio hanes lleol, cerdded a chwaraeon. Yn fab i weinidog, mae'n flaenor yn ei gapel lleol ac yn pregethu yn achlysurol. Derbyniwyd yn aelod o'r Orsedd yn 2001.

Gweithiodd fel cyfreithiwr o 1974 tan ei ethol yn aelod seneddol dros Ynys Môn yn 1987.

Bu'n Gadeirydd Plaid Cymru rhwng 1980 a 1982 a rhwng 1990 a 1992. Ef oedd Cyfarwyddwr Ymgyrchu y Blaid yn Etholiadau Cynulliad 1999.

Cynrychiolodd Sir Fôn fel aelod seneddol dros Blaid Cymru o 1987 hyd 2001 ac yn y Cynulliad o Fai 1999 hyd 2013. Daeth yn Llywydd Plaid Cymru yn dilyn ymddeoliad Dafydd Wigley ac yn dilyn etholiad 2003 daeth Dafydd Iwan yn Llywydd, ac etholwyd Ieuan Wyn Jones yn Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad. Cymerodd drosodd o Mike German fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn y llywodraeth glymblaid Llafur - Plaid Cymru yn 2007, a daliodd y swydd hyd i'r Blaid Lafur ffurfio llywodraeth leiafrifol yn 2011. Yn 2007 fe enwyd Jones yn "Wleidydd y Flwyddyn" gan BBC Cymru, ar eu rhaglen am.pm..[1]

Cychwynodd swydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Parc Gwyddoniaeth Menai yn 2013 ac arweiniodd y prosiect drwy ei gyfnod datblygu. Bydd yn ymddeol yng Ngwanwyn 2018 ond yn parhau i fod yn gyfarwyddwr gyda cwmni M-SParc.[2]

Remove ads

Arddull personol

Disgrifir Jones fel cyd-drafodwr craff iawn, ac yn "ddyn o egwyddorion, sydd hefyd yn ddyn dibynadwy ac yn wrandawr da."[3] Cyfarfu Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad gyda Ieuan Wyn Jones dros 30 mlynedd yn ôl mewn coleg yn Lerpwl (y Liverpool Polytechnic) a dywedodd amdano, "mae'n drefnydd da o gryfder anferthol".[3] Dywedodd hefyd fod Jones yn siarad gyda phob aelod o'i grwp yn unigol cyn gwneud penderfyniad, a bod Llywodraeth y Cynulliad yn cyflawni'r hyn mae'n ei addo.

Mae ei arddull yn llawer mwy addfwyn a thawel nag arddull Rhodri Morgan.[3] Disgrifiwyd Jones gan arweinydd y Blaid Geidwadol fel "person y medrwch ddibynnu arno" ac "mae ganddo bâr saff iawn o ddwylo... arweinydd da hefyd i'w blaid."[3]

Pragmatydd ydy Jones yn y bôn[4] gan lywio'i ffordd drwy'r canol - rhwng elfennau sosialaidd aelodau de Cymru ac ymgyrchwyr iaith Môn a Gwynedd. Tra'n siarad am sefyllfa Gogledd Iwerddon yn Stormont ar 16 Gorffennaf 2007, dywedodd Jones, "Gwelsom yng Nghymru, hefyd, bleidiau'n dod at ei gilydd i rannu rhaglen llywodraethu a rhannu'r penderfyniad i lwyddo i wella ansawdd bywydau pobl, yr holl bobl drwy'r holl wlad...".[5]

Remove ads

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads