Ynys Môn (etholaeth seneddol y DU)
etholaeth seneddol From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Etholaethau seneddol yw Ynys Môn, sy'n danfon un cynrychiolydd o'r etholaeth i Senedd San Steffan. Yr Aelod Seneddol cyfredol yw Llinos Medi (Plaid Cymru).
Dewiswyd Megan Lloyd George i sefyll yn etholiad cyffredinol 1929 yn dilyn cryn ddylawad gan ei rhieni ar y dewis. Cafodd 13,181 pleidlais gyda mwyafrif o 5,618 yn erbyn yr ymgeisydd Llafur, William Edwards. Hi oedd y ddynes gyntaf i'w hethol yn Aelod Seneddol dros etholaeth Gymreig. Ni safodd Llafur yn etholiad 1931 ac fe gadwodd Megan y sedd (fel y gwnaeth yn 1935) er i Lafur ymladd y sedd y flwyddyn honno.
Ynys Môn yw'r unig etholaeth yng Nghymru i gael ei chynyrchioli yn San Steffan gan bedair plaid wahanol yn ystod yr 20g. Daliodd Megan Lloyd George y sedd dros y Rhyddfrydwyr o 1929 hyd 1951, yna trechwyd hi gan Cledwyn Hughes dros y Blaid Lafur o 1951 hyd 1979; enillodd Keith Best y sedd dros y Ceidwadwyr o 1979 hyd 1987 a Ieuan Wyn Jones dros Blaid Cymru o 1987 hyd 2001.
Remove ads
Ffiniau
Ffiniau'r etholaeth yw'r ynys. Mae gan etholaeth Ynys Môn ar gyfer y Cynulliad yr un ffiniau daearyddol.
Mae Deddf Etholaethau Seneddol 2020 yn diwygio Atodlen 2 i Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 drwy roi statws “gwarchodedig” i Ynys Môn, sy'n golygu na ellir newid ffiniau’r etholaeth mewn adolygiadau o ffiniau yn y dyfodol.
Aelodau Seneddol
1542 - 1831
ASau ers 1832
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads