James Cook

mapiwr, botanegydd, swyddog yn y llynges, fforiwr, morwr (1728-1779) From Wikipedia, the free encyclopedia

James Cook
Remove ads

Fforiwr o Loegr oedd Capten James Cook (27 Hydref 172814 Chwefror 1779). Ganwyd ym Marton, Cleveland, Lloegr. Teithiodd o gwmpas y byd dair gwaith, er mwyn darganfod tiroedd newydd. Fe luniodd fapiau manwl, er enghraifft o arfordiroedd ynysoedd y Môr Tawel, Awstralia, Seland Newydd a Gogledd America.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Remove ads

Mordeithiau Cook

Roedd y fordaith gyntaf (1768-1771) yn yr HM Bark Endeavour i Dahiti er mwyn gwylio'r blaned Gwener yn symud o flaen yr haul. Ond doedd hi ddim yn bosibl cael canlyniadau cywir gyda'r offer seryddol ar y pryd. Ar ôl gwylio Gwener, aeth Cook i chwilio am Terra Australis, arfordir cyfiniol y Môr Tawel, ac i fapio arfordiroedd Seland Newydd ac Awstralia.

Roedd yr ail fordaith (1772-1775) ar HMS Resolution ac HMS Adventure; roedd yn daith arall i ddod o hyd i Terra Australis a'r cynnig cyntaf i long o Ewrop hwylio i Fôr Antarctica. Ar y daith hon profodd Cook nad oedd Terra Australis yn bodoli, ond darganfu lawer o ynysoedd.

Roedd y drydedd fordaith (1776-1779) ar y llongau HMS Resolution ac HMS Endeavour, i chwilio am lwybr môr o'r Môr Iwerydd i'r Môr Tawel o gwmpas gogledd Canada, sef y 'Tramwyfa gogledd-orllewin'. Ar ôl gwneud mapiau o arfordir gorllewin America, bu'n rhaid iddo droi yn ôl i Hawaii, lle cafodd ei ladd gan brodorion yr ynys ar ôl brwydro i gael yn ôl cwch a oedd wedi'i ddwyn. Roedd y Cymro David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar drydedd fordaith y Capten Cook. Roedd yn fab i'r llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Edeirnion, a fu'n berson Llangar o 1721 tan 1748. Cadwodd ddyddiadur am y fordaith a chyhoeddodd y llyfr A Narrative of the Death of Captain James Cook yn 1786.

Remove ads

Gorchestion

Mae Cook yn adnabyddus am ei sgiliau gwneud mapiau, am fod yn lwyddiannus wrth atal afiechydion morwyr, ac wrth ddatblygu dulliau mordwyo newydd.

Llyfryddiaeth

  • David Samwell, A Narrative of the Death of Captain James Cook (1786)

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads