Jeanette Winterson

sgriptiwr ffilm a aned ym Manceinion yn 1957 From Wikipedia, the free encyclopedia

Jeanette Winterson
Remove ads

Awdur ffuglen wyddonol, o Loegr, yw Jeanette Winterson (ganwyd 27 Awst 1959) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr, nofelydd, newyddiadurwr.

Ffeithiau sydyn Llais, Ganwyd ...

Daeth yn enwog am ei llyfr cyntaf, Oranges Are Not the Only Fruit, nofel lled-hunangofiannol am ferch sensitif yn ei harddegau yn gwrthryfela yn erbyn gwerthoedd confensiynol. Mae rhai o'i nofelau eraill wedi archwilio polaredd rhyw a hunaniaeth rywiol. O ddydd i ddydd mae hi'n ddarlledwr ac yn athro ysgrifennu creadigol. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig arall yr ysgrifennodd y mae: Sexing the Cherry, Gut Symmetries, The World and Other Places a The Stone Gods.[1][2][3][4][5]

Mynychodd Goleg Santes Catrin a Choleg, Rossendale. [6][7]

Remove ads

Magwraeth

Ganwyd Winterson ym Manceinion, Lloegr lle'i mabwysiadwyd gan Constance a John William Winterson ar 21 Ionawr 1960. Fe'i magwyd yn Accrington, Swydd Gaerhirfryn, a mynychodd Eglwys Bentecostaidd Elim. Fe’i magwyd i fod yn genhadwr Cristnogol Pentecostaidd, a dechreuodd efengylu ac ysgrifennu pregethau yn chwech oed.[8][9]

Erbyn iddi fod yn 16 oed, cyhoeddodd Winterson ei bod yn lesbiad a gadawodd y cartref.[10] Yn fuan wedi hynny mynychodd Goleg Accrington a Rossendale, a chafodd amryw o swyddi gwahanol tra darllenodd Saesneg yng Ngholeg y Santes Catrin, Rhydychen.[11][12]

Remove ads

Yr awdur

Thumb
Warsaw, 16 Chwefror 2005

Ar ôl iddi symud i Lundain, ysgrifennodd ei nofel gyntaf, Oranges Are Not the Only Fruit, a enillodd Wobr Whitbread 1985 am Nofel Gyntaf. Addasodd Winterson y nofel ar gyfer y teledu ym 1990.

Anrhydeddau

Mae Winterson wedi ennill Gwobr Whitbread am Nofel Gyntaf, Gwobr BAFTA am y Ddrama Orau, Gwobr John Llewellyn Rhys, Gwobr E. M. Forster, Gwobr Lenyddol St. Louis, ac mae'n enillydd Gwobr Lenyddol Lambda ddwywaith. Mae hi wedi cael ei gwneud yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) gan frenhines Lloegr, yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE), ac fe’i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol.

Gwobrau

  • 1985: Gwobr Whitbread am y Nofel Gyntaf, am Oranges Are Not the Only Fruit
  • 1987: Gwobr John Llewellyn Rhysam The Passion
  • 1989: Gwobr E. M. Forster am Sexing the Cherry[13]
  • 1992: Gwobr BAFTA am y Ddrama Orau, am Oranges Are Not the Only Fruit cyfres deledu]][14]
  • 1994: Winner, Lesbian Fiction category, Lambda Literary Awards am Written on the Body
  • 2006: OBE am "ei chyfraniad i lenyddiaeth"
  • 2013: Winner, Lesbian Memoir or Biography category, Lambda Literary Awardsm, am Why Be Happy When You Could Be Normal?[15]
  • 2014: St. Louis Literary Award[16][17]
  • 2016: Un o 100 Women (BBC).[18]
  • 2016: Etholwyd hi'n Fellow of the Royal Society of Literature[19]
  • 2018: Cyflwynodd y 42fed 'Darlith Richard Dimbleby fel rhan o ddathliad 100 mlynedd o Etholfraint Menywod yn y DU.[20]
  • 2018: CBE yn 2018.[21]
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads