John Gibson (cerflunydd)
cerflunydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cerflunydd Fictorianaidd o Gymru oedd John Gibson (bed. 19 Mehefin 1790; marw 27 Ionawr 1866), a anwyd yn Nhŷ Capel Forddlas, Llansanffraid Glan Conwy, ac a magwyd yn y Gyffin, ger Conwy. Astudiodd yn Rhufain gyda'r meistr Antonio Canova.[1][2] Ymhlith ei waith mwyaf nodedig y mae cerflun o Robert Peel a welir yn Abaty Westminster, un o William Huskisson yn Pimlico, Llundain, ac un o'r Frenhines Victoria yn Mhalas San Steffan.
Penderfynodd y teulu symud i America, pan oedd yn 9 oed; wedi cyrraedd Lerpwl, fodd bynnag, penderfynwyd bwrw angor yn y dref honno.[3] Yno, prentisiodd gyda chwmni dodrefn cyn symud i ddysgu sut i greu cerfluniau allan o farmor, gyda'r Meistri Francis. Daeth i gysylltiad â rhai o gerflunwyr mawr ei gyfnod wedi iddo symud i Lundain yn 1817. Bu'r hanesydd William Roscoe yn noddwr iddo am flynyddoedd; priododd ŵyres Roscoe â Henry Sandbach, o Hafodunos, Abergele, a bu hi a Gibson yn ffrindiau oes.
Ym Hydref 1817 symudodd i Rufain i weithio yng ngweithdy y cerflunydd Eidalaidd enwog Antonio Canova, efallai'r cerflunydd neo-glasurol mwyaf. Roedd ei gerfluniau i gyd yn yr arddull Glasurol, a cheisiodd Gibson atgyfodi'r arfer o beintio cerfluniau marmor gyda lliwiau llachar fel y gwnaeth y Groegiaid hynafol. Ef oedd hoff gerflunydd y Frenhines Victoria. Mae 10 o'i gerfluniau i'w gweld yn Academi Frenhinol y Celfyddydau yn Llundain a phump yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Bu Gibson yn byw am gyfnod hir fel oedolyn yn Rhufain gyda’i bartner, yr arlunydd o Gymro, Penry Williams. Roedd ei waith enwocaf The Tinted Venus wedi achosi dadlau pan gafodd ei arddangos gyntaf. Gellir ei weld yn awr yn Oriel Gelf Walker yn Lerpwl.
Remove ads
Oriel
- The Tinted Venus
- The Tinted Venus
- Aurora
- Y Duw Mawrth gyda Ciwpid
- Love Cherishing the Soul.. yn Walker Art Gallery, Lerpwl.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads