Llansanffraid Glan Conwy
pentref a chymuned ym Mwrdeisdref Sirol Conwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llansanffraid Glan Conwy,[1][2] weithiau Llansantffraid Glan Conwy neu dim ond Glan Conwy. Yn ogystal a'r brif "Llan" mae'r cymuned yn cynnwys trefgorddau Pentrefelin a Dolwyd.
- Am leoedd eraill o'r enw "Llansanffraid" (neu enwau tebyg), gweler Llansantffraid (gwahaniaethu).
Saif y gymuned ar lan ddwyreiniol Afon Conwy, ychydig i'r de i bentref Cyffordd Llandudno a'r pontydd dros Afon Conwy. Mae'r briffordd A470 yn arwain trwy'r pentref ac mae yno orsaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy.
Remove ads
Hanes
Cafodd y Llan ei sefydlu, yn ôl traddodiad, pan wnaeth Sant Ffraid hwylio o'r Iwerddon ar dywarchen a glanio ar lan Afon Conwy, tua chwarter milltir i'r gorllewin o'r eglwys bresennol. Fodd bynnag, mae cofnodion yn dangos bod y plwyf wedi ei greu gan Maelgwyn Gwynedd yn y 5g, a bod pum maenor frenhinol wedi cael eu rhoi i'r eglwys i greu'r plwyf. Mae'r rhain yn cael eu cofio yn enwau'r pum trefgordd sy'n goroesi hyd heddiw, Trellan, Trebwll, Tre Trallwyn, Tre Deunant a Phen y Rhos.
Dydd nawddsant y plwyf yw Chwefror y cyntaf [3], pryd ddisgwylir i'r plwyfolion dangos teyrngarwch i'r nawddsant trwy osod corsennau wrth eu drysau. Hen enw ar gorsennau yw "cawn" sydd yn rhoi'r enw i'r afon (cawn/wy duw'r gorsen) ac yn awgrymu bod yr arfer o osod corsennau yn hŷn na'r arfer o glodfori'r Sant Cristionogol.
Remove ads
Economi
Yn hanesyddol prif ddiwydiannau'r pentref oedd amaethyddiaeth a docio sych & siandlera ar gyfer porthladd Conwy. Pan adeiladwyd pontydd Telford (1826) a Stephenson (1848) cafodd y pentref ei ddatgysylltu o'r môr mawr a dechreuodd cyfnod o ddirywiad. Heddiw, mae'n bentref dormitary, mae'r mwyafrif helaeth o'r boblogaeth un ai wedi ymddeol neu'n bobl sy'n cymudo i'r gwaith. Mae Parc Busnes Cae Ffwt, a leolir ar ochr yr A470, wedi dod yn ganolfan i ychydig o fusnesau bach a sefydlwyd yn y pentref.
Remove ads
Llywodraeth
Mae'r Cyngor Cymuned Llansanffraid Glan Conwy yn cynnwys deuddeg o aelodau, chwech o bob un o'r ddwy ward, Bryn Rhys a Fforddlas[4]. Mae'n cynrychioli pobl leol ac mae'n gyfrifol am gynnal prosiectau lleol.
Gwneuthuriad gwleidyddol y Cyngor presennol yw 12 aelod annibynnol. Megis y rhan fwyaf o gynghorau cymunedol Cymru, prin yw'r sawl sy'n cael eu hethol i'r cyngor mewn etholiadau cystadleuol[5]
Llefydd o addoliad
Mae gan y plwyf ei heglwys sydd wedi ei noddi i'w mabsant, Eglwys San Ffraid, sydd yn perthyn i'r Eglwys yng Nghymru ac yn rhan o Esgobaeth Llanelwy. Ym 1905 roedd y capeli anghydffurfiol canlynol yn wasanaethu'r plwyf hefyd:[6]
Mae pob un ond Salem Fforddlas a Bryn Ebeneser wedi eu cau bellach.
- Eglwys St Ffraid o gasgliad John Thomas (LlGC) (gyda Bryn Ebeneser yn y cefndir)
- Bryn Ebeneser (MC)
- Cyn gapel Bryn Rhys (A)
- Cyn gapel Tŷ'n y Celyn (EF)
Remove ads
RSPB
Ychydig i'r gogledd o'r pentref ceir Gwarchodfa Natur Conwy, dan ofal yr RSPB, sy'n lle da i weld adar dŵr o bob math. Mae'r safle yn ymestyn o Gyffordd Llandudno i gyffiniau'r pentref. Mae'r fynedfa ar bwys yr A55 wrth y drofa am y Gyffordd. Ceir maes parcio a chyfleusterau ymwelwyr yno, ynghyd â llwybrau cerdded trwy'r gwlybdir.
Chwaraeon & adloniant
Mae Clwb Pêl Droed Glan Conwy yn chware yng Nghynghrair Undebol y Gogledd [7]. Mae'r clwb yn aelod o Gymdeithas Pêl Droed Arfordir Gogledd Cymru.
Mae Cymdeithas Chwaraeon ac Adloniant Llansanffraid yn cynnal Gŵyl Hwyl yr Haf, Noson Tân gwyllt, a gweithgareddau chwaraeon amrywiol trwy gydol y flwyddyn.
Cynhelir cyngherddau, dramâu a phanto yn neuadd yr eglwys a pherfformir drama miragl y geni yn y parc cyhoeddus ychydig cyn y Nadolig pob blwyddyn.
Mae dau dafarn yn y pentref y Cross Keys ar Ffordd Llanrwst (A470) a thafarn budd Cymunedol Y Clwb ger y maes pêl-droed.
Remove ads
Pobl o Lan Conwy
- John Williams (Siôn Iorc) Archesgob Efrog, (1582 – 1650). Ganwyd ym Mhlas Isaf [8]
- William Jones (telynor), (bl. tua 1700 - 1720)
- Thomas Roberts (1735 -1804) aelod o Deulu Trefeca
- John Jones (1790 -1855) argraffydd a chyhoeddwr
- Hugh Hughes arlunydd (tua 1790 - 1863)
- John Evans (I. D. Ffraid) (1814-1875), geiriadurwr, cyfieithydd Coll Gwynfa John Milton
- Tomos Efans (Cyndelyn) (1837-1908) bardd a gweinidog gyda'r Bedyddwyr
- John Gibson (cerflunydd)
- John Williams (1801-1859) meddyg, naturiaethwr, awdur Faunula Grustensis
- William Morgan Williams (Fferyllfardd) (1832-1877) Meddyg a bardd a gyhuddwyd o dwyllo i ennill cadair eisteddfod
- Hugh Thomas Davies, (1881 - 1969) cerddor, llenor, ac un o arloeswyr Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
- Jake Cassidy (geni 9 Chwefror 1993), pêl-droediwr sydd wedi chware i Wolverhampton Wanderers, Oldham Athletic a Hartlepool United
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[9][10][11]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads