Jonathan Williams

From Wikipedia, the free encyclopedia

Jonathan Williams
Remove ads

Pêl-droediwr o Gymru yw Jonathan Williams (ganwyd Jonathan Peter Williams 9 Hydref 1993) sy'n chwarae i Crystal Palace yn Uwchgynghrair Lloegr a thîm Cenedlaethol Cymru.

Ffeithiau sydyn Gwybodaeth Bersonol, Enw llawn ...

Ar ôl chwarae i Academi ac Ail Dîm Crystal Palace llwyddodd Williams i wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf yn Awst 2011 fel eilydd yn y fuddugoliaeth dros Coventry City[2].

Ar ôl torri ei goes tra'n chwarae i dîm Cymru dan 21 yn Armenia[3] dychwelodd i'r tîm cyntaf ar ddechrau tymor 2012/13 a chafodd ei wobrwyo â gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn y clwb ar ddiwedd y tymor[4].

Yn Chwefror 2014 aeth Williams ar fenthyg i Ipswich Town[4].

Mae Williams yn gymwys i chwarae dros Gymru gan fod ei dad yn dod o Ynys Môn[5] a chafodd ei gap llawn cyntaf i Gymru yn y fuddugoliaeth dros Yr Alban ar Barc Hampden, Glasgow ym Mawrth 2013[6].

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads