Judith Durham

From Wikipedia, the free encyclopedia

Judith Durham
Remove ads

Cantores, cyfansoddwraig a cherddor o Awstralia oedd Judith Durham AO (ganwyd Judith Mavis Cock; 3 Gorffennaf 1943 5 Awst 2022), sy'n fwyaf adnabyddus fel prif leisydd y grŵp boblogaidd Awstralia, The Seekers, yn yr 1960au.[1]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Cafodd Judith Cock ei geni yn Essendon, Victoria, yn ferch i William Alexander Cock a'i wraig, Hazel (ganwyd Durham). Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Essendon. Ym 1950 symudodd y teulu i Taroona, un o faestrefi Hobart ym Tasmania, lle mynychodd Judith Ysgol Fahan cyn symud yn ôl i Melbourne. Addysgwyd hi yn ysgol Ruyton i Ferched Kew ac yna yn RMIT.[2]

Enillodd gymhwyster Cydymaith mewn Cerddoriaeth, Awstralia ( AMusA ) mewn piano clasurol yn y Conservatorium Prifysgol Melbourne. Dechreuodd ei gyrfa ganu un noson yn 18 oed. Ym 1963, dechreuodd berfformio mewn clwb gyda Jazz Preachers gan Frank Traynor, gan ddefnyddio enw morwynol ei mam, Durham. Recordiodd hefyd ei EP cyntaf, Judy Durham gyda Jazz Preachers gan Frank Traynor. [3]

Roedd y grwp The Seekers yn cynnwys Durham, Athol Guy, Bruce Woodley a Keith Potger. Yn lle hynny arwyddodd W&G y Seekers am albwm, Introducing the Seekers, ym 1963. Aeth y band i'r Deyrnas Unedig ym 1964. Cadawodd Durham ym 1968.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads