Justin Trudeau
Prif Weinidog Canada ers 2015 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwleidydd o Ganada yw Justin Pierre James Trudeau (ganwyd 25 Rhagfyr 1971). Roedd yn arweinydd Plaid Ryddfrydol Canada rhwng 2013 a 2025. Daeth yn 23ain Prif Weinidog Canada yn 2015 wedi i'w blaid ennill yr Etholiad Cyffredinol. Ef oedd yr ail Brif Weinidog ieuengaf erioed yng Nghanada (wedi Joe Clark).[1][2]
Fe'i ganed yn Ottawa, yn fab i'r cyn-Brif Weinidog Pierre Trudeau a'i wraig Margaret (née Sinclair).[3]. Gwahanodd ei rieni yn 1977, pan oedd Justin yn bum mlwydd oed. Derbyniodd radd BAdd ym Mhrifysgol British Columbia yn 1998. Daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf yn Hydref 2000 pan ddarllenodd deyrnged i'w dad yn ei angladd.
Ar 6 Ionawr 2025, cyhoeddodd ei fwriad i ymddiswyddo fel Prif Weinidog wedi 10 mlynedd yn y swydd. Roedd wedi profi cwymp yng nghefnogaeth y cyhoedd ynghyd a dadleuon o fewn ei blaid. Felly penderfynodd fod angen dewis arweinydd newydd i'r blaid cyn bod rhaid cynnal yr etholiad nesaf rhywbryd yn 2025.[4][5]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads