Kate Roberts

llenor From Wikipedia, the free encyclopedia

Kate Roberts
Remove ads

Roedd Kate Roberts (13 Chwefror 189114 Ebrill 1985) yn llenor enwog yn y Gymraeg. Fe'i ganed ym mhentref Rhosgadfan, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd) a bu farw yn Ninbych. Gelwir Kate Roberts yn "Frenhines y stori fer".

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Remove ads

Bywgraffiad

Thumb
Cae'r Gors

Kate Roberts oedd plentyn cyntaf Owen a Catrin Roberts. Roedd ei thad yn chwarelwr. Roedd ganddi hi ddwy hanner-chwaer a dau hanner-brawd hŷn o briodasau cyntaf ei rhieni (John Evan, Mary, Jane ac Owen) a thri brawd iau (Richard, Evan a David). Ganed hi yn y bwthyn teuluol Cae'r Gors, yn Rhosgadfan ar lethrau Moel Tryfan. Yn ddiweddarach byddai'r bywyd yng Nghae'r Gors a'r pentref yn gefndir hollbwysig yn ei gwaith llenyddol cynnar. Mae ei chyfrol hunangofiannol Y Lôn Wen yn bortread cofiadwy o'r ardal yn y cyfnod hwnnw. Prynodd Roberts Gae'r Gors yn 1965 a'i gyflwyno i'r genedl, ond nid oedd digon o arian i'w adfer ar y pryd. Nis adferwyd tan 2005 ar ôl brwydr hir i'w ariannu, ac mae erbyn hyn o dan ofal Cadw ac yn amgueddfa i'r awdures.

Aeth hi i Ysgol y Cyngor, Rhosgadfan (1895–1904) ac wedyn i Ysgol Sir Gaernarfon (1904–10). Astudiodd Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor rhwng 1910 a 1913 o dan John Morris-Jones ac Ifor Williams. Bu'n athrawes yn Ysgol Elfennol Dolbadarn (1913–14), Ysgol Sir Ystalyfera, De Cymru (1915–17) a Ysgol Sir y Genethod, Aberdâr (1917–28). Derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd yn 1950 gan Brifysgol Cymru.

Priododd Kate Roberts a Morris T. Williams (g. 1900), argraffydd, yn 1928. Gyda'i gilydd, roeddent yn rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych. Bu ei gŵr farw ym 1946, a bu'n rhedeg Gwasg Gee am 10 mlynedd ar ei phen ei hun. Yn ei lyfr, Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985, awgryma Alan Llwyd fod gan Roberts dueddiadau hoyw.[1]

Remove ads

Ei gwaith llenyddol

Yn ei blynyddoedd cynnar fel llenor ysgrifennai nofelau a storïau byrion am dlodi a chaledi ardal y chwareli yng ngogledd Cymru. Yn ddiweddarach, ar ôl symud i Ddinbych a phriodi, troes at ysgrifennu nofelau a straeon mwy seicolegol gydag unigrwydd yn thema amlwg ynddynt. Cyfieithwyd rhai o'u gweithiau i'r Saesneg ac i ieithoedd eraill.

Llyfryddiaeth

Gwaith Kate Roberts

Astudiaethau a llyfrau eraill

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads