Ken Skates
Aelod - Cynulliad Cenedlaethol Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwleidydd Llafur Cymru yw Ken Skates (ganed 2 Ebrill 1976). Mae'n Aelod o Senedd Cymru dros etholaeth De Clwyd ers 2011.[1] Penodwyd ef yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn Llywodraeth Cymru ym Mehefin 2013 ac yna ym Medi 2014 ychwanegwyd y portffolio Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth at ei gyfrifoldebau.[2][3] Sefodd lawr o'r cabinet ôl wyth mlynedd yn y llywodraeth, yn dilyn etholiad 2021.[4]
Remove ads
Addysg
Fe'i ganed yn Sir y Fflint, a bu'n ddisgybl yn Ysgol y Waun, Gwernaffield ac yna Ysgol yr Alun, yr Wyddgrug. Aeth yn ei flaen i Brifysgol Caergrawnt lle'r astudiodd gwleidyddiaeth, economeg a pholisiau Ewropeaidd.[5]
Gwaith
Wedi blwyddyn o deithio yn Unol Daleithiau America, gweithiodd fel gohebydd i'r papur newydd Wrexham Leader, cyn astudio'r pwnc i lefel NVQ yng Ngholeg Iâl. Yna trodd at y BBC a'r Daily Express.
Tra'n gweithio fel gohebydd, dechreuodd Skates weithio fel Rheolwr Swyddfa i Mark Tami, AS Llafur dros etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy.[6]
Gwleidyddiaeth
Yn 2011 fe'i etholwyd yn AC dros Dde Clwyd, a chafodd 42.4% o'r bleidlais.[7] Yn 2012 roedd yn un o 4 AC a safodd yn y Cynulliad i fynegi iddynt yn y gorffennol gael problemau meddwl.[5]
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads