Vaughan Gething
Gwleidydd o Gymro a Prif Weinidog Cymru rhwng Mawrth ac Awst 2024 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwleidydd o Gymru yw Vaughan Gething (ganwyd 15 Mawrth 1974) a oedd yn arweinydd Llafur Cymru rhwng Mawrth a Gorffennaf 2024 a Phrif Weinidog Cymru rhwng Mawrth ac Awst 2024.[4][5]
Mae e wedi gwasanaethu fel Aelod o'r Senedd ers 2011 ac roedd yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru rhwng 2016 a 2024.[6]
Remove ads
Bywyd cynnar
Ganwyd Humphrey Vaughan Ap David Gething yn Lusaka, prifddinas Sambia yn 1974. Roedd ei dad yn filfeddyg o Aberogwr a symudodd yno i weithio lle gyfarfu mam Gething, oedd yn cadw ieir.
Symudodd y teulu i wledydd Prydain ddwy flynedd yn ddiweddarach ac fe gafodd tad Mr Gething gynnig swydd ger y Fenni. Wedi cyrraedd gyda'i deulu du, mae'n debyg i'r cynnig hwnnw gael ei dynnu'n ôl. Felly symudodd i Dorset lle magwyd Gething.
Daeth yn ôl i Gymru fel myfyriwr i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth a byw yn neuadd Gymraeg Pantycelyn.
Cafodd ei ethol yn llywydd ar Undeb y Myfyrwyr yn Aberystwyth, ac yna ar Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru.[7]
Remove ads
Gyrfa
Cafodd ei ethol i Gyngor Caerdydd fel cynrychiolydd Trebiwt yn 2004, ar ôl trechu Betty Campbell - prifathrawes ddu gyntaf Cymru - o ddwy bleidlais.
Ym Mis Mehefin 2013, penodwyd Vaughan Gething yn Dirprwy Weinidog Threchu Tlodi. Ym Mis Medi 2014, penodwyd Vaughan yn Dirprwy Weinidog Iechyd. Ym mis Mai 2016, penodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Penodwyd Vaughan yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018 penodwyd Vaughan yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.[6]
Etholiad arweinyddiaeth Llafur
Yn dilyn cyhoeddiad Mark Drakeford ei fod am sefyll lawr fel Prif Weinidog ac arweinydd Llafur, safodd Gething fel ymgeisydd ar gyfer ar arweinyddiaeth. Ei unig wrthwynebydd oedd Jeremy Miles.
Yn ystod yr ymgyrch cafodd ei feirniadu am dderbyn £200,000 o roddion gan berchennog cwmni gwastraff dadleuol yng Nghaerdydd.[4] Roedd hefyd cwestiynau ynglyn a'i enwebiad gan undeb Unite, am fod Jeremy Miles ddim yn gymwys o dan reolau'r undeb. Nid oedd Miles yn gymwys o dan reol newydd nad oedd ym ymwybodol ohono a ni wnaeth Unite ei hysbysu ohono yn ystod y hustingau. Felly dim ond Gething a gafodd ei gymeradwyo gan Unite.[8]
Ar 16 Mawrth 2024 cyhoeddwyd canlyniad yr etholiad gyda Gething yn ennill o 51.7% i 48.3%. O'i ethol, Gething oedd yr arweinydd du cyntaf o unrhyw wlad yn Ewrop.[9]
Prif weinidogaeth
Ym mis Mehefin 2024, collodd Gething bleidlais o ddiffyg hyder, o 29 pleidlais i 27.[10] Un o’r ddau aelod Senedd Llafur na phleidleisiodd oedd Hannah Blythyn, a gafodd ei diswyddo o’r Cabinet gan Gething ychydig ynghynt.[11]
Ar 16 Gorffennaf 2024 ymddiswyddodd pedwar aelod o'r Cabinet - Jeremy Miles, Lesley Griffiths, Julie James a Mick Antoniw. Yn fuan wedyn cyhoeddodd Gething y byddai'n ymddiswyddo fel arweinydd Llafur a Phrif Weinidog.[12] Ar 5 Awst 2024, ysgrifennodd at y Brenin i ymddiswyddo fel Prif Weinidog, gyda'r bleidlais dros Brif Weinidog i gymeryd lle y diwrnod canlynol.[13]
Remove ads
Gething a'r COVID-19
Gething oedd Gweinidog Iechyd Cymru adeg COVID-19 ("Y Gofid Mawr" fel y'i gelwid). Bu hyn yn gyfnod di-gynsail o ran delio ag haint a'r straen ar wasanaethau iechyd a chyhoeddus i unrhyw wleidydd o'r cyfnod. Beirniadwyd Gething yn hallt am beidio galw ar ganslo gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a'r Alban oedd i'w chwarae yn Stadiwm y Principality ar 14 Mawrth 2020.[14][15]
Daeth Gething o dan sawl beirniadaeth gan gynnwys gan y gwyddonydd Gwobr Nobel, yr Athro Syr Martin Evans. Ar 21 Ebrill 2020, cyhuddodd Evans llywodraethau Cymru a'r DU o "esgeuluso'u dyletswyddau" am beidio gwneud gwell defnydd o adnoddau domestig i ateb y galw am brofion Covid-19 ac offer diogelwch personol (PPE).[16]
Bu iddo ddenu sylw rhyngwladol wedi iddo gael ei ddal yn rhegi pan anghofiodd ddiffodd ei feicroffôn mewn cyfarfod dros y we o Gynulliad Cymru ar 22 Ebrill 2020.[17][18] Bu galw arno i ymddiswyddo gan Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru[19].
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads