Kevin Barry

Myfyriwr meddygol a chenedlaetholwr Gwyddelig a ddienyddiwyd gan Brydain. From Wikipedia, the free encyclopedia

Kevin Barry
Remove ads

Myfyriwr meddygol a chenedlaetholwr Gwyddelig oedd Kevin Gerard Barry (20 Ionawr 19021 Tachwedd 1920) a'r cyntaf i gael ei ddienyddio gan Brydain ers iddynt ladd 16 o Wyddelod ym Mai 1916, yn dilyn Gwrthryfel y Pasg. 18 oed ydoedd pan gafodd ei grogi.[1] Y cyhuddiad yn ei erbyn oedd ei fod wedi cymryd rhan, fel un o'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig, mewn ymgyrch pan saethwyd tri o filwyr Prydain. Claddwyd Kevin Gerard Barry ym Mynwent Glasnevin, (Gwyddeleg: Reilig Ghlas Naíon) sef prif fynwent Gatholig Dulyn.[2]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Tra yn Mountjoy Prison, diwrnod neu ddau cyn iddo gael ei ddienyddio, arwyddodd affidavit, yn manylu sut yr oedd wedi cael ei arteithio yn y carchar gan filwyr byddin Prydain, fel ymgais i'w gael i ddatgelu enwau ei gyd-genedlaetholwyr.[3]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads