Koper

dinas a phorthladd, Slofenia From Wikipedia, the free encyclopedia

Koper
Remove ads

Mae Koper (Eidaleg: Capodistria), yn un o fwrdeistrefi fwyaf Slofenia. Gyda phoblogaeth o oddeutu 50,000 mae wedi'i lleoli ar ochr ogledd orllewinnol eithaf penrhyn Istria. Un nodwedd hynod amdanni yw ei bod yn fwrdeistref swyddogol ddwyieithog, Slofeneg ac Eidaleg. Mae'n gartref i'r unig borthladd masnachol mawr yn y wlad ac mae'n chwarae rhan strategol i'w wlad. Mae wedi'i leoli yng Ngwlff Trieste ac yn fwy arbennig ym Mae Koper (Koprski zaliv neu Baia di Capodistria) i'r gogledd o'r Môr Adriatig. Fe'i lleolir i'r dwyrain o fwrdeistrefi Slofenia Izola a Piran ac ychydig dros 10 km i'r de o ddinas bwysig yr Eidal, Trieste.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Remove ads

Etymoleg

Enwir Koper/Capodistria, ar ôl geifr. Fe'i galwyd gyntaf yn Aegida ("gafr") gan [1] fel y'i gelwir gan Plinius yr Hynaf yn ei lyfr Naturalis Historia (iii. 19. s. 23).[2] ac yna Capris, Caprea, Capre neu Caprista gan y Rhufeiniaid.

Yn yr Oesoedd Canol, roedd yr ardal yn perthyn yn gyntaf i Ymerodraeth Rufeinig y Dwyrain ac yna cafodd ei henwi'n Caput Histriae: "blaen Istria" (y cymerir yr enw Eidaleg Capodistria ohoni). Mae enwau tramor cyfoes am y dref yn cynnwys: Croateg: Kopar, Serbeg: Копар, Kopar, ac Almaeneg Gafers.

Remove ads

Daearyddiaeth

Thumb
Addasiadau i'r amgylchedd o amgylch Koper ers ei ddechrau, gan ddangos lan y môr cyn unrhyw adferiad tir (llinell goch) ac ynys wreiddiol Koper (llinell las ysgafn ar y chwith) a chyn ynys Sermin ar y dde.

Mae'r ddinas wedi'i lleoli ym mhen gorllewinol Slofenia, yng ngogledd penrhyn Istria, ar ofod byr arfordir 16 km Slofenia. Mae wrth geg afon fach Rižana.

Wedi'i leoli ar y Môr Adriatig (Gwlff Trieste), porthladd Koper yw'r unig fynediad i'r môr i Slofenia (gweler y map). Mynediad strategol eisoes ar gyfer ymerodraeth gyfandirol iawn Awstria-Hwngari a oedd yn rheoli'r rhanbarth tan ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae tiriogaeth y fwrdeistref yn gorchuddio 311.2 km², rhwng yr Eidal i'r gogledd a Croatia i'r de. Mae ei uchder yn amrywio rhwng 0 a 1,028 metr ym Mynydd Slavnik. Hyd arfordir Slofenia yw 17.6 km.

Remove ads

Hanes

Thumb
Ynys Koper ar y Veda o 1781 cyn cael ei chysylltu â'r tir mawr trwy anheddiad(1827)
Thumb
Koper o gwmpas y flwyddyn 1900

O'r 7g, ymsefydlodd pobloedd neu lwyth y Carantanas, hynafiaid Slafaidd y Slofeniaid, a'r Horvates, hynafiaid Slafaidd y Croatiaid a'r Istriaid, Rhufeiniaid y Dwyrain o'r Balcanau, yn Istria. Yn 11g, pasiodd y rhanbarth i Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Roedd y ddinas yn rhan o feddiannau Gweriniaeth Fenis rhwng 1278 a 1797.

Yn 16g, cwympodd poblogaeth Koper yn sylweddol, o'i huchafbwynt o rhwng 10,000 a 12,000 o drigolion, oherwydd epidemigau pla dro ar ôl tro.[3] Pan ddaeth Trieste yn borthladd rhydd ym 1719, a gydag hynny, collodd Koper ei fonopoli ar fasnach, a lleihaodd ei bwysigrwydd ymhellach.[4]

Yn ôl cyfrifiad 1900, roedd 7,205 o drigolion yr Eidalwyr, 391 Slofeniaid, 167 Croateg, a 67 o drigolion Almaeneg yn byw yn Koper.

Pasiwyd y dref i ddwylo'r Habsburgiaid a'r Ffrancwyr imperialaidd cyn cwympo am fwy na chanrif i Ymerodraeth Awstria,[5] a ddaeth yn rhan wedyn o Ymerodraeth Awstria-Hwngari wedi Cyfaddawd 1867. Daeth Capodistria (tueddwyd i ddefnyddio'r enw Eidaleg gan mai Eidaleg oedd iaith a naws y dref) wedyn yn rhan o Cisleithania (tiriogaeth dan reaolaeth Awstria) ac yn dod yn brif dref yr ardal o'r un enw, un o'r 11 Bezirkshauptmannschaften yn nhalaith Arfordir Awstria.[6]

Wedi methiant Ymerodraeth Awstria-Hwngari a buddugoliaeth yr Eidal drostynt yn Rhyfel Byd Cyntaf, rhoddwyd y ddinas i'r Eidal (gyda Istria i gyd) yn fel rhan o Cytundeb Saint-Germain yn 1919. Seilwidyd hyn ar ei honiad ar bresenoldeb Fenisaidd hir a'r iaith Eidaleg a siaredir gan fwyafrif y boblogaeth. Ym 1945, meddiannwyd y dref gan bleidiau Comiwnyddol Iwgoslafia y Cadfridog Tito a'i atodi i Barth B fel rhan Diriogaeth Rydd Trieste fel rhan o Gytundeb Paris yn 1947. Diddymwyd Tiriogaeth Rydd Trieste gan Gytundeb Llundain yn 1954, ond tra i Triest gael ei roi i feddiant yr Eidal, arhosodd Koper yn rhan o Iwsgoslafia. Cadarnhwyd hyn yng Nghytundeb Osimo yn 1975. Gydag annibyniaeth Slofenia o Iwgoslafia yn 1991, daeth Koper yn rhan o weriniaeth newydd annibynnol Slofenia. Ym 1977, gwahanwyd Esgobaeth Babyddol Koper oddi wrth Esgobaeth Trieste.

Remove ads

Koper Heddiw

Gydag annibyniaeth Slofenia ym 1991, daeth Koper yr unig borthladd masnachol yn Slofenia. Mae Prifysgol Primorska wedi'i lleoli yn y ddinas.

Mae Clwb Pêl-droed Koper (Koper F.C.), yn un o brif glybiau pêl-droed Slofenia. Sefydlwyd y clwb ym 1920.[7] Mae Koper yn un o bum clwb pêl-droed yn y wlad sydd wedi ennill bob un o'r tair cystadleuaeth ddomestig (Cynghrair, Cwpan a Supercup). Noder, pan sefydlwyd y clwb yn 1920 roedd dan yr enw Eidaleg, Circolo sportivo Capodistriano.

Remove ads

Demograffeg

Rhwng 1999 a 2009, cynyddodd poblogaeth bwrdeistref Koper / Capodistria yn gyson i fod yn fwy na 50,000 o drigolion.[8].

Gefeilldrefi

Mae tref Koper wedi ei gefeillio gyda sawl gefeilldref dramor:

Oriel

Enwogion

  • Lara Baruca; cantores Slofeneg
  • Francesco Trevisani, arlunydd a aned yn Capodistria yn 1656
  • Santorio Santorio, meddyg
  • Pier Paolo Vergerio l'ancien]], dyniaethwr ac addysgydd
  • Vittorio Italico Zupelli, cadfridog Eidalaidd
  • Nazario Sauro (1880-1916), iredentydd Eidalaidd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads