Radar

From Wikipedia, the free encyclopedia

Radar
Remove ads

System sy'n defnyddio tonnau i ddarganfod gwrthrychau yw Radar sy'n acronym o RAdio Detection And Ranging.[1][2] Gall ddarganfod pellter, uchder, cyfeiriad a chyflymder y gwrthrych. Crëwyd radar yn wreiddiol i ganfod cychod a llongau ac yna awyrennau, taflegrau, cerbydau modur, ffurfiau tywydd megis trowyntoedd a hyd yn oed ffurf a siâp y tirwedd. Edward George Bowen o Abertawe a fu'n gyfrifol am ddyfeisio radar a fedrai ganfod awyrennau; bu'n arwain tîm o wyddonwyr yn Bawdsey Manor, Suffolk, ac yna yn Washington a Sydney ble y cododd delesgop radar 210 troedfedd yn Parkes yn Ne Cymru Newydd.

Thumb
Antena radar taith pell a adnabyddir fel ALTAIR.
Thumb
Radar symudol byddin israel, gyda'i antena'n troi'n araf er mwyn canfod awyrennau a thaflegrau o wahanol gyfeiriad ac uchder.

Mae dysgl neu antena'r radar yn trosglwyddo pylsiau, tonnau radio neu ficrodonnau sydd yn y man yn bownsio'n ôl o unrhyw wrthrych sydd yn eu llwybr. Mae'r rhan o egni'r don yn bownio'n ôl i ail ddysgl neu antena sydd fel arfer wedi'i lleoli yn yr un lle a'r trosglwydddydd.

Datblygwyd radar yn gyfrinachol gan sawl gwlad ychydig cyn (ac yn ystod) yr Ail Ryfel Byd. Bathwyd y gair yn 1940 gan Lynges yr Unol Daleithiau.[3][4]

Mae'r defnydd modern o'r cyfarpar hwn yn eang iawn ac mae'n cynnwys: rheolaeth traffig, seryddiaeth, systemau amddiffyn gwledydd, systemau gwrth-daflegrau, monitro'r tywydd ac astudiaethau daearegol, darganfod targedau, a cheir radar tanfor i ganfod tirwedd gwely'r môr a llongau tanfor yn ogystal â'r radar ar gyfer archwilio'r gofod.

Remove ads

Hanes

Thumb
Antena radar arbrofol; Labordy Morwrol yr Unol Daleithiau yn Anacostia, D. C., diwedd y 1930au

Dangosodd y ffisegydd o'r Almaen Heinrich Hertz mor gynnar â 1866 y gellir adlewyrchu tonnau radio o wrthrychau solet. Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, yn 1896, nododd y Rwsiad Alexander Popov, tra'n mesur pellter llongau, y gellid defnyddio ei gyfarpar i ganfod llongau na ellid eu gweld gyda'r llygad noeth. Ysywaeth, ni ddatblygodd y cyfarpar ymhellach.[5]

Yr Almaenwr Christian Hülsmeyer oedd y cyntaf i ddefnyddio tonnau radio i ddarganfod gwrthrychau metalaidd pell. Yn 1904 dangosodd y gallu i ddarganfod cwch mewn niwl tew, ond methodd gyfrifo'r pellter.[6] Cofrestrodd batent[7] ar gyfer ei ddyfais newydd yn Ebrill 2904 ac yna ail batent[8] am estyniad i'w ddyfais a oedd yn mesur pellter y llong. Sicrhaoedd ar 23 Medi batent Prydeinig am y ddyfais gyfan[9] a alwodd yn telemobiloscope.

Remove ads

Cymhwyso i'r byd modern

Ar wahân i'r cymwysiadau uchod, defnyddir radar heddiw oddi fewn i 'wn cyflymder' yr heddlu.

Yn Ionawr 2015 datgelwyd yn Uchel Lys yr Unol Daleithiau fod dros 50 o awdurdodau heddlu'r wlad, ers dwy flynedd, wedi bod yn defnyddio Range-R i 'weld' drwy waliau adeiladau.[10]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads