Lili'r Wyddfa
planhigyn blodeuol prin From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Planhigyn blodeuol lluosflwydd Arctig-Alpaidd a monocotyledon yw Lili'r Wyddfa neu Brwynddail y Mynydd (Cyfenw: Lloydia serotina), sy'n aelod o deulu'r Liliaceae. Lili'r Wyddfa yw'r unig aelod o'r genws Gagea sy'n byw tu allan i ganolbarth Asia. Mae Lili'r Wyddfa yn nodweddiadol o diroedd mynyddig. Yng Ngogledd America fe'i ceir o Alaska hyd New Mexico, ac yn Ewrop yn yr Alpau a Mynyddoedd Carpathia yn ogystal â Chymru. Yr unig le y mae'n tyfu yng ngwledydd Prydain yw ychydig o safleoedd yng ngogledd Eryri; er enghraifft Cwm Idwal. Fe'i ceir hefyd yng nghanol Asia, Siberia, Tsieina, Nepal, Mongolia, Corea a Japan.[1][2] Yng Ngogledd America fe'i gelwir yn common alplily.
Mae ganddo flodau cymharol fawr wedi'u gosod yn sypiau o dri: chwe tepal mewn dau swp, chwe brigeryn ac ofari uwchraddol. Ceir dail hirfain, unigol wedi'u gosod bob yn ail. Esblygodd y rhywogaeth hwn oddeutu 68 miliwn o flynydoedd CP yn ystod yr era Cretasaidd hwyr - Paleogen cynnar. Fel y rhan fwyaf o'r teulu, mae i'w gael mewn amgylchedd cynnes (neu dymherus), yn enwedig yn Hemisffer y Gogledd.
Ystyrir y gallai cynhesu byd-eang beryglu'r rhywogaeth yn Eryri a cheir cynlluniau i geisio'u traws-blannu i safleoedd yn yr Alban. Daw'r enw Lloydia o enw Edward Lhuyd. Amcangyfrifir fod llai na 100 o fylbiau yng Nghymru. O ran eu genynnau, mae'r math hwn yng Nghymru'n dra gwahanol i weddill y rhywogaeth hwn.[3]
Dros filoedd o flynyddoedd, mae eu lleoliad diarffordd ac anhygyrch wedi eu gwarchod, i raddau helaeth, gan ei wneud hi'n anodd i ddyn neu ddafad eu sathru a'u torri.[4]
Remove ads
Disgrifiad

Mae'n blanhigyn anodd ei adnabod pan nad yw'n blodeuo, gan fod y dail yn debyg iawn i laswellt neu frwyn. Daw'n llawer mwy amlwg pan ymddengys y blodau gwynion, o fis Mehefin ymlaen. Mae ganddynt wythienau piws neu goch. Ystyr serotina yw 'blodeuo'n hwyr'.[5][6][7]
Llyfrau Plant
Gwelir statws eiconig Lili'r Wyddfa mewn o leiaf un llyfr i blant sef Wendi Wlanog a Lili'r Wyddfa.[8]
Tacsonomeg
Arferid credu fod y genws Lloydia gwbwl ar wahân i Gagea, ac fe'i dynodwyd yn rhywogaeth a elwid yn Lloydia serotina.[9] Erbyn hyn, fodd bynnag, (2015) mae'r rhywogaeth Lloydia yn cael eu cynnwys oddi fewn i Gagea.[10][11]
Dolenni allanol
Cyfryngau perthnasol Gagea serotina ar Gomin Wicimedia
- Parc Cenedlaethol Eryri: Lili'r Wyddfa[dolen farw]
- Llên Natur
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads