Paleogen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cyfres neu Epoc ddaearegol ydy Paleogen (ansoddair: Paleogenaidd) (Saesneg: Palaeogene neu Palæogene neu weithiau: Lower Tertiary) a ddechreuodd 65.5 ± 0.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac a ddaeth i ben 23.03 ± 0.05 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae'n cynnwys cyfnod cyntaf yr Era Cenosen.[1] Mae'n rhychwantu cyfnod o 42 miliwn o flynyddoedd ac yn nodedig oherwydd mai yn y cyfnod hwn y datblygodd mamaliaid o fod yn ffurfiau bychan, syml i fod yn anifeiliaid gyda chryn amrywiaeth oddi fewn i'w grŵp. Esgblygodd yr aderyn hefyd yn y cyfnod hwn gan esgblygu i'w ffurfiau presennol, fwy neu lai. Roedd hyn yn ganlyniad i ddiwedd y cyfnod a raflaenai hwn, sef y cyfnod diwedd y dinosoriaid ac anifeiliaid eraill.
- Gofal: ceir cyfnod arall gydag enw tebyg: Paleosen.
Mae'r cyfnod yn cynnwys israniadau a elwir yn Epoc/au: y Paleosen, yr Ëosen a'r Oligosen. Mae'r system Paleogenaidd yn cael ei ddefnyddio am y creigiau a ffurfiwyd yn y cyfnod hwn.
Cyfnod Paleogen 65.5–23.03 miliwn o flynyddoedd yn ôl | |
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr | ca. 26 Cyfaint %[2] (130 % o lefel a geir heddiw) |
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr | ca. 500 rhan / miliwn[3] (2 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol)) |
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb | ca. 18 °C[4] (4 °C uwch na'r lefel heddiw)
|
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads