Llanbedrgoch
pentref ar Ynys Môn From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llanfair Mathafarn Eithaf, Ynys Môn, yw Llanbedrgoch ( ynganiad ) (hefyd Llanbedr-goch). Saif ar ffordd gefn ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A5025 rhwng Pentraeth a Benllech. Mae gwarchodfa natur Gors Goch yn gorwedd ar llyn rhewlifol hynafol.
- Am leoedd eraill o'r enw "Llanbedr", gweler Llanbedr (gwahaniaethu).

Remove ads
Hanes
Roedd dau enw amgen ar y pentref a'r plwyf yn y gorffennol, pan fu'n rhan o gwmwd Dindaethwy, sef:
- Llanfair Mathafarn Wion. Enw'r plwyf, ar ôl treflan ganoloesol Mathafarn Wion (er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a Llanfair Mathafarn Eithaf). Enw arall ar Fathafarn Wion oedd Mathafarn Fechan. Pennaeth lleol oedd Gwion; ceir Croes Wion ger Benllech.[1]
- Llanfeistr. Enw personol yw 'Meistr' yn yr achos yma.[1]

Gwnaed darganfyddiad diddorol yma yn 1994, sef olion sefydliad yn deillio o gyfnod y Llychlynwyr, efallai tua'r 10g. Mae cloddio archaeolegol yma dros y blynyddoedd diwethaf wedi darganfod tystiolaeth yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi ymsefydlu yma am gyfnod.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1999 gerllaw'r pentref. Ychydig i'r gogledd-orllewin mae gwarchodfa natur Cors Goch.Yn Llanbedrgoch mae yna tŷ o'r enw ty croes. Maer tŷ croes yn un or bythynnod hynnaf yn Ynys Môn.[2] Roedd ysgol gyntaf Llanbedrgoch ar safle'r ganolfan.
Ysgol Gynradd Llanbedrgoch yw ysgol y pentref.
Agorwyd yr ysgol yn y flwyddyn 1901.
Ers talwm roedd yna siop, post a dau ofaint yn y pentref.
Remove ads
Galeri
- Yr hen ganolfan
- Tŷ Croes
- Cefn yr ysgol
- Cae yr ysgol
- Yr ysgol
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
Dolen allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads