Llanbryn-mair
pentref ym Mhowys, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref gwledig a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanbryn-mair neu Llanbrynmair[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ardal Maldwyn ar briffordd yr A470 tua 10 milltir i'r dwyrain o Fachynlleth ar y ffordd i'r Drenewydd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[4]
Remove ads
Hanes
Gorwedd Castell Tafolwern, safle prif lys cwmwd Cyfeiliog yn yr Oesoedd Canol, tua hanner milltir i'r gorllewin o ganol y pentref, ar gymer afonydd Twymyn ac Iaen. Am gyfnod bu'n bencadlys i'r bardd-dywysog Owain Cyfeiliog.
Ganed y bardd Mynyddog yn Y Fron, cartref ei rieni yn Llanbryn-mair, yn 1833. Treuliodd ei ieuenctid yn amaethu ar y fferm teuluol ac yn bugeilio ar fryniau Llanbryn-mair. Fe'i claddwyd yn y pentref ar ei farwolaeth yn 1877. Roedd y gweinidog a diwygiwr radicalaidd Samuel Roberts (S.R.) hefyd yn frodor o Lanbryn-mair.
Treuliodd y baledwr Owain Meirion, yn enedigol o'r Bala, ei flynyddoedd olaf yn Llanbryn-mair lle bu farw yn 1868. Roedd Mynyddog yn gyfaill iddo.

Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
- Y Fron yn Llanbryn-mair - cartref Mynyddog (llun yng ngolygiad O. M. Edwards o waith y bardd, 1914)
- Y pentref tua 1885; Lun gan John Thomas
Remove ads
Gweler hefyd
- Kate Lambert, model
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads