Llanefydd
pentref ym Mwrdeistref Sirol Conwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanefydd[1] neu Llannefydd.[2] Roedd yn rhan o Sir Ddinbych cynt. Mae'n bentref bychan a leolir tua 5 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Dinbych a thua'r un pellter i'r de-orllewin o Lanelwy.

Ceir dau sant ac un santes o'r enw Nefydd, i gyd yn perthyn i linach Brychan Brycheiniog, ond nid oes sicrwydd pa un ohonynt yw nawddsant y plwyf. Ceir Ffynnon Nefydd 300m o'r eglwys.
Tua milltir i gyfeiriad y gogledd-orllewin ceir Mynydd y Gaer a goronir gan fryngaer.
Remove ads
Enwogion y fro
Ceir tystiolaeth ddibynadwy fod Ithel Goch, tad y bardd enwog Iolo Goch, wedi ymsefydlu ar dir yn Llechwedd a Berain, yn y plwyf, ar ôl gorfod symud o Lewenni, ger Dinbych, mewn canlyniad i bolisi'r awdurdodau Seisnig o orfodi'r Cymry i symud o gyffiniau'r dref honno er mwyn sefydlu Saeson yn eu lle. Mae'n eithaf tebyg y bu gan Iolo Goch ei hun dŷ yn Llechwedd.[3]
Mae'r plwyf yn cynnwys Cefn Berain, lle ganed Catrin o Ferain, "Mam Cymru", chwedl ei chyfoeswyr, ac yma yn yr eglwys leol y claddwyd hi; mae'r bedd, bellach, ar goll.
Ganwyd yr anterliwtwr enwog Twm o'r Nant ym Mhenparchell Uchaf yn y plwyf yn 1739.
Remove ads
Henebion
Mae Crug Moel Fodiar, fel mae'r enw'n ei awgrymu ar Foel Fodiar, rhwng Cefn Berain a Llansannan; dwy km i'r de o Lannefydd. Crug crwn ydy o wedi'i godi gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads