Llansannan
pentref ym mwrdeisdref sirol Conwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llansannan.[1][2] Fe'i lleolir yn nyffryn Afon Aled, tua naw milltir i'r gorllewin o dref Dinbych.
Mae Llansannan yn sefyll ar groesffordd bwysig i sawl ffordd ar ucheldir yr hen Ddinbych. Rhed yr A544 rhwng Abergele a Llanfair Talhaearn yn y gogledd a Bylchau a Phentrefoelas yn y de trwyddo. Mae lonydd eraill yn ei chysylltu â Gwytherin, Llanrwst a Llangernyw.
Mae'r eglwys yn gysegredig i Sant Sannan. Ceir cae yn ymyl y pentref o'r enw Tyddyn Sannan a gerllaw Pant yr Eglwys, ar bwys y cae hwnnw, ceir sylfeini adeilad a oedd efallai'n eglwys gynnar gysegredig i Sannan.
Ceir cofgolofn i bump o lenyddion o'r plwyf yng nghanol y pentref gyda cherflun wrth ei throed. Pen-y-Mwdwl yw'r enw ar y bryn ar bwys y pentref. Yn yr hen ddyddiau roedd Ffair Llansannan, a gynhelid ym mis Mai, yn adnabyddus iawn yn yr ardal.

Remove ads
Henebion

Adeiladwyd Plas Dyffryn Aled yn 1797 gan Diana Wynne-Yorke a bu'r teulu Wynne-York yn trigo yno hyd at ddechrau'r 20g.
Mae Crug Cae Du, Llansannan yn domen a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau ac wedi'i leoli tua cilometr i'r de o Lansannan. Mae sawl crug arall gerllaw: Crug Bryn Nantllech, Crug Blaen y Cwm, Crug Rhiwiau, Rhos y Domen, Crug Plas Newydd a Crugiau Eglwys Bylchau. Mae'r rhain i gyd o'r math arbennig o grug sy'n cael eu galw'n "grug crwn" ac o fewn tafliad carreg i'r pentref. Ceir hefyd Carnedd gron Tan-y-Foel i'r de-orllewin, sy'n garnedd (heb bridd drosti) yn hytrach nac yn grug.
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Remove ads
Enwogion
- Tudur Aled (c. 1465-1525), un o feirdd gorau'r 16g, a aned yn y plwyf
- William Salesbury (c.1520-1584), ganed cyfieithydd y Testament Newydd i'r Gymraeg yn y plwyf tua'r flwyddyn 1520.
- Henry Rees (1798–1869), brawd Gwilym Hiraethog a diwinydd a phregethwr enwog, ganed yn Llansannan yn 1798.
- William Rees (Gwilym Hiraethog) (1802–83), ganed yr awdur a bardd yn y pentref, a bu'n gweinidog Ymneilltuol yno
- Edward Roberts (Iorwerth Glan Aled) (1819-1867), bardd
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads