Llanenddwyn
pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref bychan ger Dyffryn Ardudwy, Gwynedd yw Llanenddwyn ( ynganiad ). Yn hanesyddol bu'n blwyf yng nghantref Ardudwy.[1] Fe'i lleolir milltir i'r de o Harlech i'r gorllewin rhwng y ffordd A496 a'r arfordir.
Remove ads
Hanes a hynafiaethau
Cysegrir eglwys y blwyf i'r Santes Enddwyn; ni wyddom ddim o gwbl am ei hanes. Dywedir fod dŵr Ffynnon Enddwyn, 2 filltir o'r eglwys, yn effeithlon i drin cricmala.[1]
Claddwyd y Cyrnol John Jones, Maesygarnedd ym mynwent eglwys y plwyf, sef un o'r "barnwyr" a ddeddfrydodd Siarl I, brenin Lloegr i farwolaeth.[1][2]

Roedd 798 o drigolion yn byw yn y plwyf yn 1833,[3] a 940 erbyn 1849.[1]
Remove ads
Twristiaeth
Ceir sawl gwersyll carafanau ar yr arfordir ger y pentref mewn ardal sy'n boblogaidd gan dwristiaid haf.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads