Llanfihangel Nant Melan

pentref ym Mhowys, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia

Llanfihangel Nant Melan
Remove ads

Pentref bychan yng nghymuned Maesyfed, Powys, Cymru, yw Llanfihangel Nant Melan (ceir y ffurf Llanfihangel-Nant-Melan mewn rhai ffynonellau Saesneg). Saif yn ardal Maesyfed, 50.8 milltir (81.7 km) o Gaerdydd a 139.9 milltir (225.1 km) o Lundain. Mae'n gorwedd i'r de o Fforest Clud ar yr A44 rhwng Llandrindod yng Nghymru a Llanllieni yn Lloegr (Swydd Henffordd).

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Remove ads

Chwedl

Yn ôl traddodiad llên gwerin lleol, bu draig yn byw yn Fforest Clud ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair eglwys i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi Llanfihangel Cefnllys, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfihangel Nantmelan a Llanfihangel Cascob, i'r archangel Sant Mihangel, sy'n gorchfygu'r ddraig yn y Beibl. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys[1].

Remove ads

Cynrychiolaeth etholaethol

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads