Llangoedmor
pentref yng Ngheredigion From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref bychan a chymuned yn ne-ddwyrain Ceredigion yw Llangoedmor[1] (
ynganiad ). Saif y pentref 1 filltir i'r dwyrain o dref Aberteifi ar y lôn B4570 ar lan ffrwd fechan sy'n llifo i aber Afon Teifi gerllaw.
Sant Cynllo yw nawddsant yr eglwys. Atgyweirwyd yr hen eglwys yn sylweddol yn 1860. Er mai pentref bychan yw Llangoedmor heddiw, ar un adeg roedd gan ei chlas awdurdod dros ardal ehangach, yn cynnwys Aberteifi, Mwnt a Llechryd.
Ceir Ffynnon Cynllo yn y plwyf, enwog am iachau'r crudcymalau, yn ogystal â 'Cerwyni Cynllo' ar lan Afon Teifi; ogofâu â'r dŵr yn "berwi" ynddynt. Ceir gwaith amddiffyn o bridd a elwir Cynllo Faes.
Ceir llawer o straeon am fywyd mân-fonheddwyr Cymreig Plas Llangoedmor yn llyfr H. M. Vaughan The South Wales Squires (llyfr a gafodd ddylanwad mawr ar Saunders Lewis).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Remove ads
Cyfeiriadau
Ffynonellau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

