Llanrhaeadr-ym-Mochnant
pentref a chymuned ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym Mhowys, Cymru, yw Llanrhaeadr-ym-Mochnant.[1] Fe'i lleolir ym mhen mwyaf gogleddol y sir tua 9 milltir i'r gorllewin o Groesoswallt a 12 milltir i'r de o Langollen. Mae'r lôn B4580 yn mynd trwy'r pentref.
Fe'i gelwir yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant oherwydd y bu'n rhan o hen gantref (neu gwmwd; yr oes adroddiadau gwahanol) Mochnant yn yr Oesoedd Canol.
Mae'r pentref yn sefyll wrth droedfryniau cyntaf Y Berwyn ar lan afon Rhaeadr. Ym mhen uchaf y cwm ceir Pistyll Rhaeadr, un o Saith Rhyfeddod Cymru yn yr hen rigwm. Un filltir i'r gogledd o Lanrhaeadr mae bryn Moel Hen-fache (515m).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[3]
Remove ads
Adeiladau a hynafiaethau
Ceir Capel Seion yn y pentref. Ailadeiladwyd y capel Methodistiaid hwn ar ddechrau'r 1900au yn arddull y mudiad pensaernïol Arts and Crafts.
Pobl o Lanrhaeadr-ym-Mochnant
- Yr Esgob William Morgan (1545-1604), cyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg. Treuliodd gyfnod yn ficer plwyfi Llanrhaeadr ym Mochnant a Llanarmon Mynydd Mawr cyfagos o 1568 hyd 1587. Yno y cyfarfu â'i wraig, Catherine.
- Walter Davies (Gwallter Mechain). Symudodd y bardd a golygydd o Fanafon i fod yn ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar y 18 Tachwedd 1837. Bu farw ym mhersondy Llanrhaeadr ar 5 Rhagfyr, 1849, a chafodd ei gladdu ym mynwent y plwyf wrth lan afon Rhaeadr.
- Robert Elis (Cynddelw); ganed y bardd yno yn 1812.
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
- Pistyll Rhaeadr
- Tafarn y Wynnstay Arms
- Eglwys Sant Dogfan
- Allor Eglwys Sant Dogfan
- Carreg Gwgan - Croes Geltaidd 9-10ed ganrif
- Yr eglwys
- Cerfiad o'r Swper Olaf ger allor yr eglwys
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads