Llin
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Planhigyn o'r teulu Linaceae yw llin (Linum usitatissimum). Fe'i dyfir yn gnwd er mwyn defnyddio'i ffibrau i wneud edau lliain ac i wneud olew o'i hadau.[1]
Arferid trin llin yn y llindy.
Mae'r llin yn blanhigyn cenedlaethol Belarws ac yn un o symbolau Gogledd Iwerddon.
Remove ads
Geirdarddiad
Tardda'r gair "llin" o'r Lladin, linum. Mae gan y ieithoedd Celtaidd eraill enwau o'r un eirdarddiad. Mae'r ffurf Gymraeg gynharaf yn dyddio o'r 9g, a cheir y sillafiad "llin" yng Nghyfreithiau Hywel Dda.[2] Gellir defnyddio'r gair "llinad" (neu'r ffurf unigol "llinhedyn") i gyfeirio at hadau'r llin, er enghraifft olew llinad. Mae'r gair hwn, sy'n gyfuniad o "llin" a "had", yn dyddio'n ôl i'r 13g.[3]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
