Belarws

gwlad yn Nwyrain Ewrop From Wikipedia, the free encyclopedia

Belarws
Remove ads

Gweriniaeth dirgaeedig yn nwyrain Ewrop yw Belarws (hefyd Belarus,[1] Belarŵs, Belorwsia,[2] neu Rwsia Wen; Belarwseg a Rwseg: Беларусь). Mae'n ffinio â Rwsia i'r dwyrain, ag Wcráin i'r de, â Gwlad Pwyl i'r gorllewin, ac â Lithwania a Latfia i'r gogledd. Minsk yw ei phrifddinas – mae dinasoedd mawr eraill yn cynnwys Brest, Grodno, Gomel, Mogilev, Vitebsk a Bobruisk. Coedwigir un traean o'r wlad, ac mae amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu yn ganolog i'r economi. Belarws yw un o’r gwledydd yr effeithwyd yn fwyaf difrifol arni gan ymbelydredd niwclear o ddamwain atomfa Chernobyl o 1986 yn Wcráin.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Yn ystod ei hanes, bu rhannau Belarws dan reolaeth sawl gwlad, gan gynnwys Dugiaeth Polatsk, Archddugiaeth Llethaw, Cymanwlad Gwlad Pwyl-Llethaw, ac Ymerodraeth Rwsia. Daeth Belarws yn weriniaeth Sofietaidd ym 1922. Datganodd y weriniaeth ei sofraniaeth ar 27 Gorffennaf 1990. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, datganodd Belarws ei hannibyniaeth yn swyddogol ar 25 Awst 1991. Alexander Lukashenko yw arlywydd y wlad ers 1994. Yn ystod ei reolaeth, mae Lukashenko wedi gweithredu polisïau y cyfnod Sofietaidd, er gwaethaf gwrthwynebiadau oddi wrth bwerau gorllewinol. Mae Belarws yn trafod gyda Rwsia i uno'r ddwy wlad yn un wladwriaeth a elwir yn Undeb Rwsia a Belarws, er bod y trafodaethau yn stolio ers sawl blwyddyn.

Remove ads

Daearyddiaeth

Prif: Daearyddiaeth Belarws

Hanes

Rhanbarth y dalaith mawr Rws Ciefaidd oedd Belarws, tan y farwolaeth y Brenin Yaroslav I "y Doeth" ym 1054.

Gwleidyddiaeth

Prif: Gwleidyddiaeth Belarws

Diwylliant

Prif: Diwylliant Belarws

Economi

Prif: Economi Belarws

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads