Llithriwl
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dyfais analog i gyfrifo yw'r llithriwl (Saesneg: slide-rule) sy'n air cyfansawdd: 'llithro' a 'riwl' (pren mesur).[1] Mae'n ddyfais raddedig, gyda chanol symudol iddi, ac fe'i defnyddir fel canllaw i wneud cyfrifiadau mathemategol. Gellir ei hystyried fel rhagflaenydd y cyfrifiadur.[2][3][4]

Fe'i defnyddir yn bennaf ar gyfer lluosi a rhannu, a hefyd ar gyfer ffwythiannau megis esbonyddion (exponents), ail-israddau, logarithmau a trigonometreg, ond nid fel arfer ar gefer adio neu dynnu. Er ei bod yn debyg o ran enw ac ymddangosiad i bren mesur, nid ar gyfer mesur hyd, neu i greu llinellau syth y bwriadwyd y ddyfais.
Fe'u cynhyrchwyd, dros y blynyddoedd, mewn gwahanol steil, ac mae'r manylion arnynt (y 'raddfa') yn newid, fel bo'r angen. Ceir rhai arbenigol e.e. arferid cynhyrchu llithriwliau ar gyfer y byd hedfan a chyllid, fyddai'n cyflymu'r broses o gyfrifo yn y meysydd hynny.
Ar ei symlaf, mae pob rhif sydd i'w luosi yn cael ei gynrychioli gan hyd ar y llithriwl. Ceir graddfa logarithmig ar bob un, mae'n bosibl halinio'r riwl canol (yr un sy'n llithro) i ddarllen swm y logarithmau, ac felly cyfrifo lluoswm y ddau rif.

Remove ads
Hanes
Datblygodd y Parchedig William Oughtred ac eraill y llithriwl yn yr 17g, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed ar logarithmau gan John Napier. Cyn dyfodiad y cyfrifiannell electronig, dyma'r offeryn cyfrifo mwyaf cyffredin mewn gwyddoniaeth a pheirianneg. Parhaodd y defnydd o lithriwliau i gynyddu drwy'r 1950au a'r 1960au hyd yn oed wrth i gyfrifiaduron gael eu cyflwyno'n raddol; ond tua 1974 roedd y cyfrifiannell llaw, gwyddonol, electronig yn dirwyn i ben ac roedd y rhan fwyaf o gyflenwyr wedi peidio a'u cynhyrchu.[5][6][7][8]
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads