Lucy (Australopithecus)

From Wikipedia, the free encyclopedia

Lucy (Australopithecus)
Remove ads

Bedyddiwyd ffosiliau AL 288-1 o ysgerbwd a ganfuwyd yn Nhriongl Afar, Ethiopia yn 1974 yn Lucy.[1][2][3] Mae'r sgerbwd yn nodedig oherwydd y nifer fawr o esgyrn, sy'n caniatáu i anthropolegwyr eu dehongli a'u dyddio'n eitha manwl yn hominid sy'n perthyn i'r rhywogaeth Australopithecus afarensis. Ni wyddus sut y bu farw, ond mae'r dystiolaeth yn dangos yn eitha clir mai oedolyn ifanc ydoedd.

Ffeithiau sydyn Rhif catalog, Enw cyffredin ...

Credir fod yr esgyrn yn dyddio i tua 3.2 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Dengys esgyrn ei choesau'n glir ei bod yn cerdded ar ddwy goes, ond mae'r benglog yn ymdebygu fwy i deulu'r epaod. Mae hyn yn brawf fod cerdded ar ddwy goes wedi rhagflaenu datblygiad yr ymennydd.[4][5]

Fe'i canfuwyd gan Donald Johanson a'i gydweithwyr a fedyddiodd y sgerbwd yn 'Lucy' gan fod yr archaeolegwyr ar y pryd yn gwrando'n ddi-baid ar gân o'r un enw gan y Beatles, sef Lucy in the Sky with Diamonds.[6][7][8]

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads